Arolwg Sefydliad Bevan yn cofnodi effaith tlodi ar bobl Cymru

Tachwedd 2024 | Sylw, Tlodi gwledig

Mae adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan yn dangos yr effaith parhaus mae’r argyfwng costau byw yn ei gael ar bobl yng Nghymru. Mae’r sefydliad wedi bod yn cynnal ei arolygon ‘Cipolwg ar Dlodi’ (Snapshot of Poverty) ers 2021, gan ddarparu data cyson ynghylch sut y mae pobl Cymru yn ymdopi a chostau byw a’u profiadau o dlodi.

Yn ôl yr awduron Joel Davies a Dr Steffan Evans, mae’r adroddiad yn dangos fod safonau byw yng Nghymru yn yr unfan, a bod lefelau caledi yn debyg iawn i’r hyn a welwyd mewn blynyddoedd cynt, er y cwymp mewn chwyddiant. Dengys yr adroddiad fod nifer o bobl methu fforddio prynu nwyddau hanfodol o hyd a bod lefelau benthyca ac ôl-ddyledion ar gynnydd hefyd.

Ymysg canfyddiadau’r adroddiad mae’r pwyntiau canlynol:

  • Mae 15% o’r rheini a ofynnwyd yn ei chanfod hi’n anodd fforddio nwyddau hanfodol weithiau, yn aml, neu bob tro.
  • Roedd 30% o’r ymatebwyr wedi gorfod benthyg yn ddiweddar o ganlyniad i bwysau ariannol, ac mae 15% a dyled ar gostau o leiaf un mis o fil cartref.
  • Roedd 44% o’r rheini a gymerodd rhan yn yr arolwg yn dweud fod eu sefyllfa ariannol wedi cael effaith ar eu hiechyd meddwl, tra bod 29% yn dweud ei fod wedi cael effaith ar eu hiechyd corfforol.
  • Mae awduron yr adroddiad yn disgwyl i’r sefyllfa waethygu dros y gaeaf wrth i’r angen i gynhesu tai a gwariant uwch ar ynni osod mwy o faich ariannol ar ysgwyddau pobl.
  • Mae’r data hefyd yn dangos nad yw effaith tlodi wedi ei rannu’n deg rhwng gwahanol grwpiau demograffig. Yn gyffredinol, mae’r sefyllfa’n waeth i’r rheini ag anableddau, sydd yn rhieni i blant o dan 18, yn rhentu eu cartrefi neu yn derbyn Credyd Cynhwysol.

Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This