Mae Bwrlwm ARFOR wedi cyhoeddi cynhadledd arbennig bydd yn dathlu’r gwaith sydd wedi cael ei neud fel rhan o raglen ARFOR hyd yma.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets yn Llanelli ar ddydd Iau 28 Tachwedd rhwng 9:30yb a 3:30yp. Yn agor y diwrnod bydd ffair fasnach, lle bydd modd rhwydweithio a chymdeithasu ynghyd ac ymweld â stondinau gwahanol fusnesau o ardaloedd ARFOR.
Yn ystod y diwrnod, bydd yna nifer o siaradwyr gwadd yn trafod gwahanol agweddau o’r rhaglen, gan gynnwys cyfle i glywed gan a holi cwestiynau i fusnesau sydd wedi elwa o fod yn rhan o ARFOR.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, dilynwch y ddolen hon i’r dudalen Eventbrite.