Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol

Tachwedd 2024 | Sylw

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24. Mae’r adroddiad yn edrych ar waith y Comisiynydd a’i swyddfa dros y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd ag effaith y gwaith hwnnw a’u cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ffurf y strategaeth Cymru Can.

Yn ôl yr adroddiad ymysg blaenoriaethau’r Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn nesaf bydd:

  • Darparu mwy o hyfforddiant a chyngor i gyrff cyhoeddus.
  • Herio Gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau. hinsawdd a natur, gan gynnwys sicrhau fod yna waith yn cael ei wneud i gyrraedd sero net a gwella ansawdd dŵr.
  • Siarad o blaid Strategaeth Fwyd Cenedlaethol i Gymru.
  • Ehangu’r cyd-weithio sy’n digwydd gyda sefydliadau addysg bellach ac uwch er mwyn gwella darpariaeth ymchwil.
  • Dadansoddi cyllideb Llywodraeth Cymru er mwyn dadlau o blaid camau ataliol ym maes polisi iechyd.

I ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, ac i ddysgu mwy am y strategaeth ‘Cymru Can’, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This