Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru sydd hefyd a chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies wedi cyhoeddi fod y ffenestri ymgeisio ar gyfer gynlluniau ychwanegol cyfnod paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy bellach wedi’u hagor.
Cyhoeddodd y Gweinidog gymal cychwynnol y rhaglen gyllido nôl yn yr haf yn y Sioe Frenhinol gan ddatgan y gall gynlluniau pellach agor yn ddibynnol ar gyllid. Bwriad y rhaglen grantiau yw helpu ffermwyr baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy bydd yn dod i rym yn 2026 drwy ddarparu cyllid bydd yn galluogi iddynt fuddsoddi mewn dulliau ffermio cynaliadwy sydd yn helpu i amddiffyn a gwella’r amgylchedd.
Mae pum cynllun unigol yn rhan o’r rhaglen sy’n cyllido gweithgarwch yn y meysydd canlynol:
- Cefnogi tyfu cnydau amaethyddol sy’n darparu buddion amgylcheddol cadarnhaol.
- Annog buddsoddiadau bach mewn gwelliannau amgylcheddol ar y fferm.
- Helpu ffermwyr Cymru i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol eu busnesau fferm.
- ‘Cronfa sbarduno’ i sefydlu mentrau garddwriaethol newydd.
- Help i ddatblygu neu sefydlu mentrau garddwriaethol neu arallgyfeirio amaethyddol ar ffermydd Cymru.
Mewn datganiad dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
‘Bwriad y cyllid hwn yw rhoi sicrwydd i ffermwyr a thyfwyr y bydd cefnogaeth iddyn nhw drwy’r cyfnod hyd at 2026.
Rydym yn bwriadu helpu, arwain a chefnogi ffermwyr a thyfwyr cymwys Cymru wrth i ni baratoi fersiwn derfynol yr SFS a symud tuag ato.
Byddwn yn dal i wrando ar y sector a chydweithio â hi. Gyda’n gilydd gallwn greu dyfodol lle bydd ein ffermwyr a thyfwyr yn cynhyrchu’r bwyd gorau at y safonau uchaf, ac yn diogelu yr un pryd ein hamgylchedd gwerthfawr ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Byddwn yn annog pob ffermwr a thyfwr i edrych sut y gall yr arian sydd ar gael drwy’r cynlluniau paratoi helpu i roi’r sefydlogrwydd a’r gwytnwch sydd eu hangen ar eu busnesau wrth i ni symud tuag at gyflwyno’r SFS yn 2026.
Rydym wedi bod yn gweithio’n frwd gyda’r Ford Gron Gweinidogol i ddatblygu fersiwn bras diwygiedig o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy cyn i ragor o waith dadansoddi a modelu gael ei wneud arno. Byddwn yn gwneud rhagor o gyhoeddiadau ar hynt y gwaith cyn hir.’
Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am yr holl gynlluniau a thaliadau gwledig sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen hon. Mae rhestr o’r holl ddyddiadau cau ar gyfer pob cynllun unigol ar gael yma.