Agor ceisiadau ar gyfer grantiau ‘Perthyn’

Hydref 2024 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

a river running through a lush green countryside

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford wedi cyhoeddi bod Cynllun Grantiau Bach prosiect Perthyn wedi agor. Amcan Perthyn yw helpu’r Gymraeg i ffynnu drwy ddarparu grantiau i grwpiau cymunedol er mwyn eu helpu i sefydlu mentrau cymdeithasol newydd neu ddatblygu prosiectau tai sy’n cael eu harwain gan y gymuned. Y bwriad yw helpu cymunedau Cymraeg eu hiaith drwy greu cyfleoedd economaidd a darparu tai fforddiadwy mewn ardaloedd sydd â nifer uchel o ail gartrefi.

Hyd yma mae 47 o brosiectau cymunedol wedi sicrhau cyllid, megis Menter y Tŵr ym Mhwllheli, lle mae trigolion lleol wedi dod ynghyd i brynu gwesty. Mewn datganiad dywedodd Mark Drakeford:

‘Mae grantiau Prosiect Perthyn yn gyfle gwych i helpu cymunedau i wireddu eu syniadau. Maent wedi helpu grwpiau cymunedol i brynu a rhedeg eu tafarndai lleol fel yn Llanuwchllyn a Thafarn Dyffryn Aeron.

Mae Perthyn hefyd wedi helpu Menter y Tŵr ym Mhwllheli i brynu a rhedeg gwesty sy’n eiddo i’r gymuned, yn ogystal â chefnogi prosiect ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned fel Egni Trefin.

Gall grantiau bach wneud gwahaniaeth mawr yn eich cymuned leol, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniadau ar gyfer prosiectau er budd eu cymuned ac i gefnogi’r Gymraeg i wneud cais.’

Mae modd cael grantiau er mwyn sefydlu dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol hefyd. Derbyniodd Egni Trefin grant o dros £10,000 i sefydlu menter gymunedol i archwilio dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Derbyniodd cymuned Clynfyw gymorth i brynu fferm gyda thir i’w rentu a bythynod i bobl leol.

Dywedodd Cris Tomos, Rheolwr Asedau Cymunedol Planed:

‘Mae cyllid grant Perthyn yn parhau i fod yn elfen bwysig o ran cymorth ariannol i gamau cyntaf prosiectau cymunedol newydd a rhai sy’n ehangu sy’n datblygu mentrau i gefnogi’r Gymraeg a Chynlluniau Tai Cymunedol. Mae llawer o’r busnesau newydd wedi mynd ymlaen i sefydlu cwmnïau cydweithredol cofrestredig sydd bellach yn prynu tir ac eiddo er mwyn rhoi hwb i’r economi leol.’

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas:

‘Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni prosiect Perthyn. Mae Perthyn yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd. Mae gweinyddu cynllun peilot grantiau bach ar gyfer y cymunedau er mwyn helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni. Rydym yn edrych ymlaen at weld y syniadau’n datblygu ac at weithio gyda rhagor o gymunedau dros y misoedd nesaf.’

Gweinyddir y cynllun gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth ynghyd a manylion ynghylch sut i wneud cais ar wefan Cwmpas.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This