NFU Cymru yn cyhoeddi manylion Cynhadledd 2024

Hydref 2024 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

white and black cow on green grass field during daytime

Mae NFU Cymru wedi cyhoeddi manylion eu cynhadledd flynyddol, bydd yn canolbwyntio ar ‘Sicrhau Dyfodol Bwyd Cymreig’ a sut i sicrhau systemau cyflenwi bwyd sydd yn fwy cynaliadwy. Bydd ystod eang o arweinwyr o’r diwydiant amaeth yn siarad yn y digwyddiad i rannu’r datblygiadau gwleidyddol, masnachol a chyflenwi diweddaraf gyda’r rheini bydd yn mynychu.

Cynhelir y gynhadledd eleni yng ngwesty Metropole yn Llandrindod ar ddydd Iau 7 Dachwedd. Yn agor y diwrnod bydd Llywydd NFU Cymru Aled Jones, wedi ei ddilyn gan Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig bydd yn rhoi araith ac yn ateb cwestiynau o’r gynulleidfa.

Bydd ail sesiwn y diwrnod yn canolbwyntio’n benodol ar sicrhau systemau bwyd cynaliadwy a gwydn yng nghwmni’r Athro Tim Lang, Athro Emeritws Polisi Bwyd yng Nghanolfan Polisi Bwyd City University yn Llundain. Yn dilyn hyn bydd yna sesiwn yn edrych ar y cyfleoedd posib sydd ar gael i gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru yng Nghwmni Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Food Sense Wales, Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Shelagh Hancock, Prif Weithrwdwr First Milk.

Wedi cinio bydd Dr Mathew Wall o Brifysgol Abertawe yn arwain sesiwn yn edrych ar dirlun gwleidyddol Cymru. Bydd y sesiwn olaf yn rhoi croeso i John Murray, Cyfarwyddwr Cig, Bwyd a Diodydd Bord Bia – y Bwrdd Bwyd Gwyddelig, i drafod profiad Iwerddon o sicrhau a datblygu marchnadoedd.

Mae modd i aelodau sydd am fynychu’r gynhadledd gofrestru drwy ffonio 01982 554200 neu drwy e-bostio nfu.cymru@nfu.org.uk. Mae hefyd modd cofrestru drwy ymweld â gwefan NFU Cymru.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This