Y Sefydliad Materion Cymreig i gynnal digwyddiad yn edrych ar ddyfodol cynaliadwy i gymunedau gogledd Cymru

Medi 2024 | Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Mae’r Sefydliad Materion Cymreig (Institute of Welsh Affairs neu IWA) wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal digwyddiad ‘Tuag at ddyfodol cynaliadwy i ogledd Cymru a’i chymunedau’ ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor i archwilio sut orau i greu dyfodol llewyrchus a chynaliadwy i gymunedau gogledd Cymru. Dyma yw’r digwyddiad olaf mewn rhaglen waith 3 mlynedd sydd wedi gweld yr IWA a Phrifysgol Bangor yn trefnu amryw o ddigwyddiadau yn trafod polisi cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad yn ystyried lles cymunedau gogledd Cymru ynghyd a ffactorau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol oddi fewn i fframwaith sy’n cydnabod anghenraid cynaliadwyedd. Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn manylu ar ac yn cydblethu themâu o’r digwyddiadau cynt gan gynnwys economeg iechyd, datblygu twristiaeth gynaliadwy, cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, seilwaith ynni Cymru a pherchnogaeth gymunedol.

Cadeirydd y noson bydd yr Athro Andrew Teilo Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ac ymhlith y rheini bydd yn cymryd rhan bydd:

  • Dr Edward Thomas Jones – Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor
  • Meleri Davies – Prif Swyddog, Partneriaeth Ogwen
  • Sarah Schofield – Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau, Adra
  • Nia Jones – Cyfarwyddwr Gweithredol, Cwmni Frân Wen
  • Dylan Williams – Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn cael ei gynnal rhwng 17:30 a 20:30 ar 3 Hydref 2024 yng Nghanolfan Pontio Bangor. Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle, dilynwch y ddolen hon i’r dudalen Eventbrite.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This