Prifysgol Aberystwyth i gynnal gweminar yn archwilio arfer da wrth hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol yn y gweithle

Medi 2024 | Arfor, Sylw

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal gweithdy ar-lein i drafod arfer da ynghylch ieithoedd lleiafrifol yn y gweithle. Y nod yw gwneud hyn drwy edrych yn benodol ar Wlad y Basg i weld beth allwn ni yng Nghymru, a’r rhai sydd yn ymwneud â rhaglen ARFOR yn benodol, ei ddysgu o brofiadau arbenigwyr o ddefnyddio a chefnogi’r Fasgeg mewn gweithleoedd yno. Ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 bydd Dr Elin Royles yn rhoi croeso i arbenigwyr ac academyddion o Wlad y Basg i drafod gwahanol agweddau o arfer da ieithyddol mewn gweithleoedd yno.

Mae’r gweithdy yn rhan o waith y brifysgol gyda Wavehill ar ffrwd Monitro, Gwerthuso a Dysgu rhaglen ARFOR, gyda’r nod o ennyn gwell dealltwriaeth ymysg rhanddeiliaid, academyddion a llunwyr polisi iaith yng Nghymru ynghylch y mathau o gamau y gellid eu cymryd i hwyluso a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y byd gwaith.

Ymhlith y siaradwyr bydd:

  • Dr Auxkin Galarraga o Brifysgol Gwlad y Basg yn trafod ‘Y model Cyfrifoldeb Ieithyddol Corfforaethol’
  • Pablo Suberbiola o Soziolinguistika Klusterr yn cyflwyno ar ‘Aldahitz a Methodoloeg Eusle’
  • Galder Lasuen o Euskalit yn rhoi cyflwyniad ar ‘Arfer da rheolaeth ieithyddol yng Ngwlad y Basg’
  • Leire Okaranza, FAGOR yn trafod profiadau FAGOR

Cynhelir y digwyddiad rhwng 12:30 a 14:30 ar Zoom. I wneud cais i fynychu’r digwyddiad ac am unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch neges at ear@aber.ac.uk.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This