Mae Llwyddo’n Lleol wedi cyhoeddi bod modd i unigolion a theuluoedd sydd am ddychwelyd i ardal ARFOR wneud cais am hyd £5,000 i helpu gyda’r costau o symud. Mae Llwyddo’n Lleol yn rhan o ffrwd marchnata a hyrwyddo rhaglen ARFOR sy’n cael ei gyflenwi gan Menter Môn a Mentera. Maent yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael yn ardal ARFOR ac estyn cyngor a chymorth i’r rheini sydd eisiau aros, neu ddychwelyd yno.
Mae’r grantiau ar gyfer cymorth ymarferol i gynorthwyo gyda’r broses o symud nôl i’r ardal ac ar gael i’r rheini sydd yn ystyried dychwelyd i Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd neu Ynys Môn. Gall y cymorth hwn gynnwys help i dalu costau cludiant, costau rhent neu forgais, unrhyw gostau gwarchod plant neu hyd yn oed gwersi Cymraeg.
Mae gofyn i ymgeiswyr fodloni’r gofynion canlynol:
- Bod yn unigolyn o dan 35 mlwydd oed neu’n deulu sydd ag o leiaf un oedolyn 35 mlwydd oed neu iau.
- Bod yn unigolyn sy’n dod yn wreiddiol o ardal ARFOR neu yn deulu sydd ag o leiaf un aelod yn dod o’r ardal.
- Bod yn unigolyn sydd yn medru’r Gymraeg neu wedi ymrwymo i’r broses o ddysgu’r iaith neu’n deulu sydd ag un aelod sydd yn siarad ac/neu yn dysgu Cymraeg.
- Yn ystyried ac yn chwilio am fwy o wybodaeth a chymorth am ddychwelyd i ARFOR.
Yn ôl Llwyddo’n Lleol mae yna beth hyblygrwydd ynghylch y gofynion uchod, ac maent yn annog y rheini sydd â diddordeb nad ydynt o reidrwydd yn cwrdd â’r holl ofynion i gysylltu i gael sgwrs drwy e-bostio: llwyddonlleol@rhaglenarfor.cymru. Disgwylir i ymgeiswyr ymrwymo i ddychwelyd i ranbarth ARFOR erbyn Mawrth 2025. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyfrannu at ymgyrch ddigidol Llwyddo’n Lleol a chymryd rhan mewn cyfweliadau a rhannu eu profiadau ynghylch dychwelyd ar gamera.
Am ragor o wybodaeth ac am ddolen i’r ffurflen gais, dilynwch y ddolen hon.