Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi cabinet newydd Llywodraeth Cymru yn dilyn cyfnod o gabinet interim ers ei phenodiad ar ddechrau mis Awst. Mae’r cyhoeddiad yn dod wedi i gyfnod byr Vaughan Gething fel Prif Weinidog achosi rhwygiadau oddi fewn i’r grŵp Llafur yn y Senedd.
Mae sawl newid i’r cabinet newydd gyda Julie James a Jeremy Miles yn dychwelyd i’r Llywodraeth. Fe wnaeth y ddau ymddiswyddo o’r cabinet oherwydd eu diffyg hyder yn Vaughan Gething fel Prif Weinidog er mwyn gorfodi ei ymddiswyddiad. Mae Jeremy Miles wedi cael swydd Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Julie James wedi derbyn rôl Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni. Nid yw Mick Antoniw a Lesley Griffiths, y ddau weinidog arall a ymddiswyddodd o gabinet Vaughan Gething, wedi dychwelyd i’r Llywodraeth.
Mae’r cyn Prif Weinidog Mark Drakeford, a ddychwelodd i’r Llywodraeth yn y cabinet interim fel Gweinidog Iechyd, yn aros yn y cabinet fel yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg. Mae hyn yn gweld y Gymraeg unwaith yn rhagor yn cael ei ychwanegu at bortffolio llywodraethol arall.
Yn dilyn penodiad Drakeford, mae Rebecca Evans yn symud i fod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae Vikki Howells wedi ymuno a’r Llywodraeth am y tro cyntaf fel Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch.
Mae’r cabinet llawn fel a ganlyn:
- Huw Irranca-Davies AS – Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Jeremy Miles AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Mark Drakeford AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
- Rebecca Evans AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
- Jayne Bryant AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
- Lynne Neagle AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
- Ken Skates AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
- Jane Hutt AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
- Jack Sargeant AS – Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
- Vikki Howells AS – Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
- Sarah Murphy AS – Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
- Dawn Bowden AS – Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
- Julie James AS – Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Mewn datganiad dywedodd Eluned Morgan:
‘Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi Cabinet newydd Llywodraeth Cymru.
Mae’r newidiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn cynnig sefydlogrwydd, yn manteisio ar brofiad, ac yn dod â’n holl dalentau ynghyd. Mae’r portffolios newydd yn adlewyrchu’r Gymru fodern ac wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r prif heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu.
Rwyf wedi treulio’r haf yn gwrando ar bobl Cymru, a bydd fy mhenodiadau i’r Cabinet newydd nawr yn canolbwyntio o ddifrif ar y blaenoriaethau a glywais ganddyn nhw.
Dyma dîm a fydd yn cynrychioli pob rhan o Gymru gan weithio ar ran y genedl gyfan. Mae fy nhîm a minnau wedi ymrwymo i gyflawni newid cadarnhaol i bobl Cymru ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw.’