Lansio adroddiad terfynol y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Awst 2024 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Ar ddydd Iau 8 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd lansiwyd adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gymunedau sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg. Mewn digwyddiad ym mhabell y Cymdeithasau fe wnaeth Cadeirydd y Comisiwn ac awdur yr adroddiad, Dr. Simon Brooks gyflwyno’r ddogfen drwy amlinellu rhai o’r argymhellion a’r cynigion pennaf sydd i’w chanfod ynddi.

Heb os, prif gynnig yr adroddiad yw dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’ bydd yn gosod statws penodol ar ardaloedd sydd ganddynt fwy na chanran penodedig o siaradwyr Cymraeg oddi fewn iddynt. Awgrym y Comisiwn yw bod hyn yn cael ei osod ar 40%, ond maent wedi ildio’r cyfrifoldeb o ddod i benderfyniad terfynol ar union pa drothwy y dylid ei osod i Lywodraeth Cymru. Yn ei gyflwyniad roedd Dr. Brooks yn awyddus i bwysleisio na ddylid eithrio cymunedau sydd ganddynt ganrannau o siaradwyr Cymraeg sydd ychydig bwyntiau yn is na unrhyw drothwy penodedig rhag bod yn ardal o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Roedd Dr. Brooks yn ofalus i bwysleisio yn ei sylwadau fod y Gymraeg yn iaith genedlaethol sydd yn perthyn i’w holl siaradwyr oddi fewn a thu hwnt i Gymru, ond bod gofyn ymyraethau penodol mewn cymunedau Cymraeg ei hiaith i sicrhau eu dyfodol.

Bwriad gosod ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yw bod yn gam cychwynnol ar gyfer amrywio polisi yn lleol yn enw ymdrechion i rymuso’r iaith ar lawr gwlad. Ynghyd a dweud bod angen penodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch mae yna 56 argymhelliad arall a wneir gan y Comisiwn yn enw cryfhau sefyllfa’r Gymraeg a’i siaradwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Dwysau’r ystyriaeth a wneir o’r Gymraeg o fewn fframwaith polisi mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
  • Rhoi grymoedd angenrheidiol i gymunedau allu wrthdroi ‘shifft iaith’.
  • Deddfwriaeth newydd i sefydlu’r fframwaith ar gyfer dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
  • Sefydlu uned oddi fewn i Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu a chydlynu polisi yn yr ardaloedd hyn. Creu cyngor o arbenigwyr i gynghori’r uned hon.
  • Creu strategaeth datblygu economaidd i gael ei lunio yn arbennig ar gyfer ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn enw gwella economïau lleol a darparu ar gyfer anghenion sylfaenol y boblogaeth ac er lles aelwydydd.

Mewn datganiad i’r wasg gan Llywodraeth Cymru dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks:

‘Mae’n fraint cyflwyno’r adroddiad i’r Llywodraeth, sy’n benllanw dwy flynedd o waith yn datblygu cynigion polisi o ran dyfodol cymunedau Cymraeg. Er mwyn bod yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i ni i gyd, mae’n rhaid gofalu am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol hefyd. Mae argymhellion y Comisiwn yn anelu at wneud hynny. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ni sicrhau dyfodol bywiog a llewyrchus i gymunedau Cymraeg ledled y wlad.’

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

‘Roedd sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymru yn gam hanfodol yn ein hymrwymiad ni i gryfhau’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Hoffwn ddiolch yn fawr i’r Comisiwn am ei waith a’i ymroddiad. Byddwn ni nawr yn ystyried y canfyddiadau a’r hargymhellion yn ofalus cyn ymateb i’r adroddiad.’

I gyd-fynd a’r lansiad cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ail gam y Comisiwn bydd yn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yn y cymunedau hynny na drafodwyd yn yr adroddiad cyntaf, hynny yw’r ardaloedd o Gymru nad yw’r canrannau o siaradwyr mor uchel â chymunedau o siaradwyr Cymraeg sydd tu hwnt i Gymru. Bydd ail gam y Comisiwn yn cael ei gadeirio unwaith yn rhagor gan Dr. Simon Brooks eto ac Elin Haf Gruffydd Jones fydd yr is-gadeirydd.

Mae aelodau ail gam y Comisiwn yn dod ag ystod eang o brofiad ac arbenigedd i’r gwaith. Yr aelodau hynny yw: Kate Windsor-Brown, Malachy Edwards, Dr Jon Gower, Dr Gwennan Higham, Ian Gwyn Hughes, Dr Rhian Hodges, Elin Pinnell, Daniel Tiplady.

Wrth drafod ail gam y Comisiwn dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:

‘Y Gymraeg yw ein hiaith genedlaethol ac mae’n perthyn i ni i gyd. Rwyf wedi gofyn i’r Comisiwn edrych ar y defnydd o’r Gymraeg yn holl ardaloedd Cymru a thu hwnt.

Rydyn ni eisiau i fwy o bobl ddefnyddio mwy ar y Gymraeg bob dydd ac i wneud hynny mae angen mwy o gyfleoedd i’w defnyddio hi mewn bywyd bob dydd ac yn gymdeithasol. Alla i ddim meddwl am unman gwell i lansio cam nesaf gwaith y Comisiwn nag yma ym Mhontypridd, tref sydd â sîn gymdeithasol Gymraeg ffyniannus, diolch i weledigaeth ac ymroddiad criw o wirfoddolwyr gweithgar.’

Bydd adroddiad terfynol ail gam y Comisiwn yn cael ei gyhoeddi yn haf 2026. Mae modd darllen adroddiad y cam cyntaf yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This