Mae nifer o heriau yn wynebu Cymru Wledig. Mae gennym economi sy’n tangyflawni yn ôl sawl mesur, gyda chynhyrchiant is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r farchnad lafur a gormod o swyddi a chyflogau isel ac mae cyfleoedd ar gyfer cynnydd yn gyfyngedig, eto ar yr un pryd mae cyflogwyr yn methu llenwi swyddi gwag. Mae yna nifer helaeth o fusnesau bychain a micro a ‘chanol coll’ o fusnesau canolig eu maint. Tra bod rhai cymunedau gwledig yn denu mewnfudwyr, mae yna dueddiad tuag at allfudo, yn enwedig ymysg pobl ifanc, gan adael poblogaeth sy’n heneiddio ar eu hol. Mae yna batrymau o dlodi parhaus, sydd yn aml yn llai gweladwy na’r tlodi yr ydym yn meddwl amdano wrth ystyried ardaloedd trefol. Mae yna broblemau ynghylch argaeledd a pa mor fforddiadwy yw tai. Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi eu cwtogi, a hefyd rydym wedi colli gwasanaethau masnachol megis banciau mewn nifer o drefi a phentrefi. Mae ein hisadeiledd yn annigonol – mae yna ardaloedd lle nad oes band eang, na signal ffôn symudol ac nid yw’r ffyrdd a llinellau trên yn mynd i’r llefydd yr hoffem ni iddynt fynd, a ddim mor gyflym â’r ydym yn dymuno.
Mae ffermydd teuluol, y mae rhai yn eu gweld fel nodwedd hanfodol o gefn gwlad Cymru, yn wynebu ansicrwydd ynghylch eu dyfodol unwaith yn rhagor. Ac er cynnydd yn adfer ac adfywio’r iaith Gymraeg, mae yna ofidion ynghylch y niferoedd llai o siaradwyr Cymraeg yn y cymunedau hynny lle iaith y mwyafrif yw’r Gymraeg.
Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, gallwn weld y bydd newid hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar fywyd a gwaith yn y Gymru Wledig, ond gallwn hefyd gydnabod fod gan y rhanbarth ran bwysig i’w chwarae yn mynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd – gan ddefnyddio ein hadnoddau naturiol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac atafaelu carbon. Eto mae penderfyniadau lletchwith i’w gwneud ynghylch sut y defnyddir y tir a’r tirlun wrth i ni symud at Sero Net.
Mae gallu awdurdodau ac asiantaethau lleol i ymateb i’r heriau hyn wedi ei gyfyngu hefyd. Nid yw modelau confensiynol ar gyfer twf economaidd ddim yn hawdd i’w trosi i ranbarth heb un canolbwynt trefol cryf a chyfalaf mewndarddol cyfyngedig. Mae yna hefyd fylchau mawr yn y dystiolaeth sydd ei angen arnom er mwyn llunio a chyflwyno polisïau effeithiol, ac mae’r data sydd yn bodoli yn aml ddim o’r maint cywir neu yn perthyn i oes a fu. Ar ôl blynyddoedd o lymder, mae galluoedd dadansoddol awdurdodau cyhoeddus yn gyfyngedig.
Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales – Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig – yn ymgais i geisio llenwi rhai o’r bylchau hyn a chryfhau ein gallu i wynebu’r heriau yr wyf wedi eu crybwyll drwy gysylltu dealltwriaeth, polisi a gweithredoedd i weithio tuag at economi les yn y Gymru Wledig.
Mae ein dull yn cael ei lywio gan saith egwyddor greiddiol.
Yn gyntaf, partneriaeth. Rydym yn falch i fod yn bartneriaeth. Mae’n bwysig nad yw hyn yn brosiect sy’n cael ei arwain gan un brifysgol. Rydym wedi casglu ynghyd arbenigwyr ym maes ymchwil wledig sydd ymysg y gorau yn y byd o brifysgolion Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd a Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw, ac rydym wedi estyn llaw tu hwnt i brifysgolion at arbenigwyr busnes, mentrau cymdeithasol a’r trydydd sector, gan gynnwys y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Antur Cymru, Datblygiadau Egni Gwledig, Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, Represent Us a Sgema fel partneriaid allweddol.
Rydym wedi sefydlu grwpiau thematig ar gyfer pob un o’n pedwar thema – Adeiladu’r Economi Adnewyddadwy, Grymuso Cymunedau ar gyfer Adfywiad Diwylliannol, Gwella Lles mewn Ardal, a Cefnogi’r Pontio tuag at Sero Net – gan gynnwys ymchwilwyr o du hwnt i’n tîm craidd, gwneuthurwyr polisi a gwneuthurwyr. Bydd y Grwpiau Thematig yn fannau trafod ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a dealltwriaeth, ond hefyd yn chwarae rhan yn ein rhaglen waith drwy helpu i adnabod bylchau tystiolaeth a chynnig pynciau i’w hymchwilio.
Yn ail yw cyd-gynhyrchu. Wrth i ni ddechrau datblygu’r syniad ar gyfer Cymru Wledig LPIP Rural Wales roeddem yn ffodus i dderbyn nawdd gan Rwydwaith Arloesi Cymru ar gyfer ymchwil cychwynnol ac i gynnal gweithdy gydag ymchwilwyr a rhanddeiliaid. Mae egwyddor cyd-gynhyrchu yn parhau, yn enwedig drwy fewnbwn y Grwpiau Thematig.
Yn drydydd, bydd ein hymchwil yn ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg. Rydym wedi creu pensaernïaeth, costrel sydd eto i’w lenwi a thestun ymchwil. Bydd hyn yn cael ei wneud fel ymateb i’r materion sy’n amlygu eu hunain a’r gofynion tystiolaeth sy’n cael eu cynnig gan y grwpiau Thematig. Bydd ein gwaith yn cynnwys prosiectau byr, wedi eu targedu at ddatrys materion a phroblemau penodol.
Yn bedwaredd, bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar ddatrysiadau. Nid ydym yn gwneud ymchwil yn enw gwneud ymchwil ond yn enw gwneud gwahaniaeth. Elfen bwysig o hyn bydd ein labiau arloesi, wedi’u modelu ar Lab Arloesi Dim Carbon Canolfan y Dechnoleg Amgen. Byddwn yn dod a rhanddeiliaid ynghyd mewn cyfres o weithdai i drafod yr hyn sy’n rhwystro newid mewn ardal, i adnabod ymyraethau posib a gweithredoedd er mwyn trosgynnu’r rhwystrau hyn ac i osod yn ei le a phrofi un o’r ymyraethau hyn gyda phartner.
Rydym hefyd yn bwriadu cynnal; ‘sgyrsiau’ yn ein trydedd flwyddyn, gan gynnwys ystod eang o gyfranogwyr. Bydd y rhain yn ceisio canfod atebion i rai o’r materion mwyaf anodd sy’n wynebu’r Gymru Wledig, wedi ei lywio gan y dystiolaeth yr ydym wedi ei gasglu drwy Cymru Wledig LPIP Rural Wales.
Yn bumed, bydd ein gwaith yn grymuso cymunedau. Nid ydym am fodloni ar echdynnu ymchwil o gymunedau, rydym eisiau gweithio gyda nhw ac i adael rhywbeth iddynt. Wrth wraidd hyn mae ein Hymchwil Gweithredu wedi’i Arwain gan y Gymuned wedi ei gydlynu gan Together for Change, lle byddwn yn cefnogi a mentora cymunedau i adnabod eu pynciau ymchwil eu hunain, i gynllunio strategaeth ymchwil, casglu a dadansoddi data, ac i benderfynu beth i wneud gyda’r canfyddiadau. Rydym yn dechrau gweithio gyda phum cymuned beilot – Corwen, Trawsfynydd, Cwm Dyfi, Gogledd Sir Benfro a’r Drenewydd.
Yn chweched, rydym eisiau ein gwaith i fod yn gynhwysol. Nid ydym am siarad â’r cymeriadau arferol yn unig. Mae prif ffrydio cydraddoldeb yn rhedeg drwy ein rhaglen ac yn ein helpu i ni ystyried sut mae ein gwaith yn mynd i’r afael ac anghydraddoldebau. Byddwn yn rhedeg gweithdai gyda grwpiau sydd yn cael eu heithrio yn aml er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn dal eu gofidion a’u hanghenion, a byddwn yn mentora unigolion o’r cefndiroedd hyn i gymryd rhan yn ein Grwpiau Thematig a Labiau Arloesi ac ar leoliad gyda ni i wneud ymchwil ar bynciau sydd o bwys iddyn nhw.
Yn olaf, bydd ein gwaith ar gael i’r cyhoedd gael mynediad ato. Nid yw hyn yn ymchwil wedi ei gomisiynu gan un corff i eistedd ar silff yn eiddil. Rydym eisiau’r data a’r canlyniadau o’n hymchwil i fod yn ddefnyddiol ac i gael ei ddefnyddio gan bawb. Bydd hyn yn cael ei wneud yn rhannol drwy’r Hwb Tystiolaeth Integredig Ar-lein i’r Gymru Wledig y mae tîm data WISERD yn ei adeiladu, bydd yn integreiddio data sy’n bodoli’n barod o amryw o ffynonellau ac yn gronfa ar gyfer data a thystiolaeth o’n rhaglen waith. Byddwn hefyd yn ymgysylltu a’r cyhoedd drwy seminarau ar-lein a digwyddiadau yn y Sioe Frenhinol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ac heddi rydym wedi lansio ein cyfrif Twitter/X, @LPIPCymruWledig.
Mae yna lot o waith ar ein cyfer ac rydym yn ddiolchgar o’r brwdfrydedd a’r diddordeb rydym wedi derbyn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.