Mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei hymrwymiad i’r Gymraeg drwy sicrhau cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhaglen y mae’r Comisiynydd yn ei redeg sy’n darparu cydnabyddiaeth swyddogol i’r sefydliadau a’r busnesau sydd yn cydweithio gyda swyddfa’r Comisiynydd i gynllunio a dylunio systemau a gweithdrefnau sy’n hwyluso a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Dywedodd Aled Jones, Prif Weithredwr y Sioe:
‘Gyda chanran uwch o weithwyr yn y sector amaethyddol yn medru’r Gymraeg nag unrhyw sector arall yng Nghymru a’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y diwydiant yn sylweddol uwch na chyfartaledd y boblogaeth gyffredinol, mae cysylltiad byw iawn rhwng bodolaeth a dyfodol y Gymraeg, a’r diwydiant amaeth.
Mae’r Gymraeg yn greiddiol, nid yn unig i’n gwaith ni yma ar faes y Sioe Amaethyddol, ond ar lefel ehangach yng nghefn gwlad Cymru. Mae’r iaith a’r diwylliant yn rhan annatod o fywyd amaethyddol Cymru ac mae derbyn cydnabyddiaeth swyddogol am hynny yn gymorth i ni hyrwyddo’r Gymraeg ymhellach gyda chymuned y Sioe yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r wythnos hon yn naturiol yn binacl i ni yng Nghymru ac mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn gychwyn gwych i’r ŵyl.’
Wrth ymweld â maes y Sioe dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg:
‘Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn y maent yn ei gynnig drwy’r Gymraeg. Drwy wneud hynny y gobaith yw y bydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.
Mae’r diwydiant amaethyddol yn rhan hanfodol o economi a diwylliant cymunedau gwledig Cymru, lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd. Mae sicrhau ffyniant yr economi wledig ac amaethyddol felly yn hollbwysig er mwyn gweld twf yn y nifer sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd.
Ar gychwyn un o’n gwyliau pwysicaf hoffwn longyfarch y Sioe ar dderbyn y Cynnig Cymraeg a dymuno pob llwyddiant iddynt ar hyd yr wythnos.’
Mae modd dysgu mwy am y Cynnig Cymraeg a sut gallwch chi a’ch sefydliad neu fusnes gymryd rhan drwy ddilyn y ddolen hon i wefan y Comisynydd.