Lansio Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn y Senedd

Gorffennaf 2024 | Cymru Wledig LPIP Rural Wales, O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Yn y Senedd ddoe (10 Gorffennaf 2024) cafwyd lansiad cyhoeddus Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig (Cymru Wledig LPIP Rural Wales) o flaen cynulleidfa o academyddion, ymchwilwyr, gwleidyddion, llunwyr polisi ac arbenigwyr sector. Mae’r prosiect yn cynrychioli partneriaeth newydd rhwng prifysgolion, mentrau cymdeithasol, busnesau a llunwyr polisi sydd yn ymdrechu i ddatrys rhai o brif heriau cymunedau gwledig yng Nghymru. Nod y bartneriaeth yw gweld sut y gall ymchwil ac arloesi gysylltu gwahanol edeifion polisi ynghyd, gan wella dealltwriaeth o wir anghenion cymunedau cefn gwlad a sicrhau allbynnau academaidd ac ymarferol bydd yn sicrhau newid gwirioneddol ar lawr gwlad.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddeg ardal awdurdod lleol sy’n ffurfio’r mwyafrif o gefn gwlad Cymru: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg ond hefyd yn cynnwys cymunedau gwledig mewn rhannau eraill o Gymru. Yn amlwg mae’r prosiect yn eang ei sgôp i’r graddau fod yna amrywiaethau enfawr economaidd, diwylliannol a daearyddol rhwng yr ardaloedd hyn, ac eto maent i wahanol raddau yn wynebu heriau tebyg wrth ystyried materion megis tai, gwaith, trafnidiaeth, isadeiledd, allfudo a mewnfudo, gofodau cymdeithasol a gwasanaethau lleol.

Gan fod modelau adfywiad economaidd confensiynol yn aml wedi ei selio ar waith sy’n ymwneud a threfi a chanolfannau poblogaeth sylweddol, mae dirfawr angen ymchwil sydd yn edrych ar sut y gellid sicrhau gwytnwch cymunedau gwledig sydd yn ystyried ffactorau megis poblogaeth wasgaredig, diffyg adnoddau cyhoeddus, natur busnesau bychan gwledig, a diffyg isadeiledd i ddenu a chadw buddsoddiad. Mae sicrhau twf tra hefyd yn gwneud yn siŵr fod lles cymdeithasol yn cael ei lawn ystyried yn hanfodol i’r rheini wrth lyw’r prosiect ynghyd a sicrhau fod amgylchedd, iaith a diwylliant y llefydd hyn yn cael sylw teg mewn oes lle mae annhegwch economaidd a newid hinsawdd yn bygwth newid ein ffordd o fyw.

Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Rhys Jones, un o arweinwyr y prosiect. Fe’i ddilynwyd gan Lywydd y Senedd Elin Jones AS, a wnaeth bwysleisio pwysigrwydd cefn gwlad a’i phobl i Gymru gyfan, a’i balchder i fod yn rhan o ddigwyddiad oedd yn blaenoriaethu anghenion cefn gwlad. Yna fe wnaeth Alice Taylor o UK Research and Innovation siarad am sut y mae’r LPIP yn rhan o ymdrechion ehangach o ddeall anghenion polisi ardaloedd gwahanol drwy ymchwil. Yn olaf, fe gafwyd cyflwyniad gan yr Athro Mike Woods, arweinydd y prosiect, ynghylch sut y bydd y prosiect yn gweithredu gan amlinellu’r holl edeifion gwaith gwahanol sydd yn ffurfio’r cynllun.

Wedi’r digwyddiad, dywedodd Mike Woods:

‘Rydym yn falch o allu bod wedi lansio Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn y Senedd ac yn diolch i Elin Jones AS am ein croesawu. Mae’r diddordeb a’r brwdfrydedd yr ydym wedi ei weld ar gyfer y fenter wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen i weithio ar y cyd a unigolion a sefydliadau ar draws y sector gyhoeddus, y sector breifat a’r trydydd sector ynghyd ag Aelodau Senedd Cymru a’r Deyrnas Unedig i helpu ni ddatrys yr heriau sy’n wynebu cefn gwlad Cymru.’

Am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect cadwch olwg ar Arsyllfa yn yr wythnosau a misoedd i ddod, a gwnewch yn siwr eich bod yn dilyn @LPIPCymruWledig ar Twitter / X.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This