Cymraeg 2050: Rôl yr economi wrth ymdrechu tua’r miliwn

Mehefin 2024 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Mae hwn yn flog gwadd gan Elen Bonner o Brifysgol Bangor. 

Mae rôl yr economi a’r gweithle yn derbyn sylw blaenllaw yn strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, sef Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Yn y blog hwn, byddwn yn trafod rôl yr elfennau penodol hyn wrth ymdrechi tua’r filiwn, gan gyfeirio at y dystiolaeth sy’n gefn i’r strategaeth.

Fel rhan o fy ngwaith doethuriaeth, fe wnes i gynnal adolygiad systematig o’r hyn sy’n wybyddus am ddylanwad polisïau, gweithgareddau a thueddiadau economaidd ar y Gymraeg. Mae adolygiad systematig, fel mae’r enw yn awgrymu, yn ddull trylwyr a chynhwysfawr sy’n hwyluso’r broses o syntheseisio canlyniadau astudiaethau blaenorol er mwyn cyflwyno beth sy’n wybyddus am bwnc. Mae hi hefyd yn fodd effeithiol o adnabod bylchau mewn gwybodaeth. Fe wnaeth yr adolygiad cyrchu 15,414 o gyfeiriadau ac o’r rhain roedd 73 yn ateb meini prawf yr adolygiad. Mae crynhoi’r dystiolaeth o ddylanwad dimensiynau economaidd ar ddimensiynau ieithyddol yng Nghymru mewn un man yn caniatáu asesiad o sut y gall gweithrediadau economaidd cefnogi’r ymgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Un o themâu allweddol Cymraeg 2050 yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, ac fe adnabuwyd y gweithle fel lleoliad strategol ar gyfer gweithredu’r amcan hwn. Mae tystiolaeth o’r adolygiad systematig yn dangos bod seilwaith data cadarn yn cadarnhau pwysigrwydd y gweithle fel parth ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn ogystal ag annog arferion iaith newydd o blith gweithwyr. Ymhellach, mae’r strategaeth yn arddel mabwysiadu egwyddorion cynllunio ieithyddol yn y gweithle ar draws pob sector, gan gynnwys y sector breifat. Fodd bynnag, yn ôl y dystiolaeth a gyrchwyd gan yr adolygiad systematig, mae’r sector breifat yn cael ei yrru gan rymoedd y farchnad ac yn hynny o beth mai gwrthdaro rhwng amcanion economaidd ac ieithyddol yn bosib. O ganlyniad, awgrymir bod angen datblygu ymyraethau sy’n debygol o annog defnydd o’r Gymraeg o fewn y sector breifat yn benodol.

Thema allweddol arall o fewn y strategaeth yw creu amodau ffafriol i’r iaith ffynnu a chydnabyddir rôl yr economi mewn darparu’r amodau cymdeithasol a fydd yn caniatáu i siaradwyr i aros o fewn cymunedau Cymraeg. I’r gwrthwyneb, gall yr economi hefyd cyfrannu tuag at greu amodau a fydd yn niweidiol i’r iaith. Ac yn wir, ceir tystiolaeth o fewn yr adolygiad systematig o ddylanwad anuniongyrchol effeithiau economaidd ar iaith, yn aml yn gysylltiedig â phrosesau megis mudo. Er enghraifft, ceir tystiolaeth o duedd ymysg siaradwyr Cymraeg addysgedig i symud i Gaerdydd. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yma wedi dyddio erbyn hyn. Ymhellach, prin yw’r dystiolaeth o’r math o ymyriadau economaidd sydd yn debygol o liniaru allfudo. Yn hynny o beth, gelwir am ymchwil pellach i’r hyn all gefnogi pobl ifanc i aros neu ddychwelyd i’w cymunedau.

Cyrchir gwybodaeth gan yr adolygiad systematig o ddylanwad cadarnhaol y diwydiannau iaith-gysylltiol hynny yw, diwydiannau sy’n uniongyrchol gysylltiedig gydag ieithoedd lleiafrifol. Awgrymir y dystiolaeth bod y sector cyfryngau traddodiadol a ddigidol yn cynnig parthau i ddefnyddio’r Gymraeg, yn codi statws a bri’r iaith, yn hyrwyddo’r iaith, yn ei moderneiddio a’i safoni, ac yn cefnogi caffael iaith. Yn hyn o beth, mae yna dystiolaeth bod diwydiannau iaith gysylltiol yn cefnogi bob un o fesurau cynllunio ieithyddol allweddol sef cynllunio statws, bri, corpws a chaffael iaith. Cydnabyddir Llywodraeth Cymru arwyddocâd y diwydiannau hyn i’w amcanion a gwelir bod yna dystiolaeth gadarn i gefnogi’r strategaeth.

Yn ogystal â’r diwydiannau iaith-gysylltiol, mae’r strategaeth hefyd yn adnabod sectorau strategol o safbwynt eu cyfraniad i gynaladwyedd yr iaith, gan gynnwys y sector amaeth a’r sector dwristiaeth. Ceir tystiolaeth cymharol hen o fewn yr adolygiad systematig o bwysigrwydd y sector amaeth i’r Gymraeg gyda rhai yn haeru y gall bygythiadau i gynaladwyedd amaeth ddylanwadu’n negyddol ar yr iaith oherwydd nifer siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio o fewn y sector.  O safbwynt y cyfraniad y sector dwristiaeth, ceir tystiolaeth wrthgyferbyniol. Ar y naill law awgrymir bod y sector dwristiaeth yn cynnig swyddi i bobl o fewn cymunedau Cymraeg gan rwystro siaradwyr yr iaith rhag allfudo. Fodd bynnag, ceir hefyd tystiolaeth o ddylanwad negyddol y sector ar y Gymraeg yn gysylltiedig â’i berthynas gydag ail gartrefi. Mae’r anghysondeb yn y dystiolaeth yn awgrymu bod hyn yn faes lle mae angen ymchwil pellach.

I grynhoi, gellid dadlau bod y seilwaith data yn awgrymu bod gan yr economi rôl allweddol i chwarae wrth ymdrechi tua’r nod o filiwn o siaradwyr. Mae pwysigrwydd y gweithle i ymdrechion cynyddu defnydd y Gymraeg yn glir, a cheir tystiolaeth o arwyddocâd sectorau penodol i gynaladwyedd y Gymraeg megis y sector amaeth a’r diwydiannau iaith-gysylltiol megis y cyfryngau. Fodd bynnag, pan mae’n dod at greu’r amgylchiadau economaidd cymdeithasol angenrheidiol i alluogi siaradwyr Cymraeg i aros, neu ddychwelyd, i’w cymunedau Cymraeg – mae llawer mwy sy’n anhysbys nac sy’n hysbys – yn enwedig o safbwynt y math o swyddi sydd yn debygol o leddfu allfudiad. Yn hyn o beth, amlygir yr angen dybryd am ymchwil pellach i lywio’r modd mae strategaeth iaith y Llywodraeth yn cael ei weithredu’n ymarferol.

Ceir mynediad at yr adolygiad systematig lawn yma.

Mae Elen Bonner yn fyfyriwr doethuriaeth yn Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor ac yn ddeiliad ysgoloriaeth Martin Rhisiart drwy law’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Goruchwylwyr Elen yw Dr Cynog Prys, Dr Rhian Hodges a Dr Siwan Mitchelmore. Hoffai Elen ddiolch i bawb sydd wedi ei chynorthwyo neu gyfrannu i’w gwaith ymchwil.  

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This