Blog Gwadd: Yr angen am Glymblaid Effaith Gymdeithasol

Mehefin 2024 | Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Fy enw i yw Owen Derbyshire, a dwi’n Brif Swyddog Gweithredol ar elusen yma yng Nghymru.

Dwi dal yn gymharol newydd i’r sector, ac mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai trawsnewidiol i mi am sawl rheswm.

Dwi wedi cael gweld y garfan o wirfoddolwyr anhygoel y mae Cymru yn elwa ohonynt, sawl busnes hynod eu gweledigaeth gymdeithasol, a sefydliadau trydydd sector di-ri yn gwneud gwaith arbennig i ddatrys problemau ochr yn ochr â chymunedau ar draws Cymru.

Mae’r gwaith y mae’r trydydd sector yn ei wneud i gefnogi ein cymunedau yn heriol ac yn rhoi boddhad yn yr un modd, gan gynnig budd gwirioneddol yn syth bin i bobl Cymru; dyna pam dwi’n caru fy swydd a’r hyn yr ydym yn ei wneud.

Er hyn – ac er y canlyniadau calonogol dwi’n gweld ar lawr gwlad bob dydd – does dim modd osgoi’r ffaith bod yna faterion systemig llawer yn fwy y mae rhaid i ni fynd i’r afael a nhw os ydyn wir am sicrhau ‘ffyniant bro’.

 

Yr heriau sy’n wynebu Cymru

Mae Cymru’n wynebu heriau sylweddol – lefelau uchel o amddifadedd, tangyflawniad addysgiadol cyson, diffyg twf economaidd hir dymor, ac anghydraddoldeb iechyd sy’n tyfu o hyd. Hefyd, nid yw cyflymder ein proses o ddatgarboneiddio yn ddigonol i gyrraedd ein targedau Sero Net.

  • Tlodi – Mae gan Gymru rhai o’r cyfraddau tlodi uchaf ym Mhrydain. Mae oddeutu 24% o bobl Cymru yn byw mewn tlodi cymharol, gan gynnwys 28% o blant.
  • Addysg – Mae cyrhaeddiad addysgiadol yng Nghymru yn parhau i fod yn waeth nag ardaloedd eraill o’r DU, mae hyn yn cyfrannu i gylchdro tlodi ac yn cyfyngu cyfleoedd economaidd i bobl ifanc yn y dyfodol.
  • Iechyd – Mae gan Gymru wahaniaethau sylweddol o ran disgwyliad oes a chanlyniadau iechyd ar draws gwahanol ranbarthau, yn rhannol oherwydd y cyfraddau amrywiol o amddifadedd materol.
  • Economi – Mae gan Gymru gyflogau is ar gyfartaledd a lefelau uwch o ddiweithdra o gymharu â gweddill y DU. Mae twf economaidd wedi arafu, ac mae’r rhagolygon yn awgrymu y bydd diffyg twf economaidd yn parhau heb ymyrraeth a buddsoddiad sylweddol.

Mae’r materion hyn yn gymhleth ac yn gysylltiedig i’w gilydd. Maent wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein hanes diwydiannol ac yn gwaethygu o ganlyniad i densiynau rhyngwladol cyfoes.

Er bod gwleidyddion yn y Senedd a San Steffan yn aml yn derbyn y bai am hyn, y realiti anodd yw bod y coffrau cyhoeddus yn fwy gwag nag erioed, nid yw ein cyrff cyhoeddus wedi eu hariannu’n ddigonol i ddarparu’r newid trawsnewidiol o’r maint a’r cyflymder sydd ei angen, ac mae ein hasiantaethau darpariaeth heb yr adnoddau angenrheidiol i wynebu heriau mewn modd digonol.

Mae gofyn syniadau beiddgar ac ymroddiad pob un dinesydd, elusen a busnes sydd a’r ewyllys i wella pethau er mwyn datrys y problemau lletchwith a chlymog hyn. Eto erys y cwestiwn, sut?

 

Yr angen am Glymblaid Effaith Gymdeithasol

Mae nifer o fusnesau, sefydliadau trydydd sector a chyrff cyhoeddus Cymru wedi dadlau o blaid modelau newydd o ddarparu gwerth cymdeithasol ers tro, rhywbeth y dylem ei groesawi.

Serch hyn, yr her yw bod y sefydliadau arweiniol hyn yn aml yn gweithredu yn hollol annibynnol o’i gilydd, gan arwain ar ystod eang o fentrau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol (ESG) sy’n gyfiawn yn eu bwriad ond annigonol yn yr effaith maent yn eu cael.

Faint yn well y gallwn ni wneud o grynhoi ein hadnoddau ynghyd, dechrau cydweithio o dan fframwaith gwerth cymdeithasol cyffredin ac yn cydlynu ein hadnoddau yn well er mwyn gwneud y mwyaf o effaith ein gweithgarwch cyfunol?

Dyna pam yr ydw i ac eraill yn galw am sefydlu Clymblaid Effaith Gymdeithasol i Gymru.

Bydd y glymblaid arfaethedig hon uno ein busnesau blaenllaw, ein helusennau, ein sefydliadau academaidd, ein cyllidwyr a’n cyrff cyhoeddus o dan un faner, pob un wedi ymroi i gydlynu ein gweithgarwch gwerth cymdeithasol yn well ac i fynd ati ar y cyd i ddatrys heriau cymdeithasol ac amgylcheddol mwyaf sylweddol Cymru.

 

Wynebu’r heriau

Dwi wedi treulio’r sawl wythnos diwethaf yn cwrdd â dwsinau o bobl ddisglair a dawnus sy’n gweithio yn y maes hwn, ac mae bellach yn amlwg fod yna sawl her sy’n rhaid eu hwynebu os ydym am wireddu llawn botensial y cynnig hwn –

Arweinyddiaeth: Nid yw’n hollol glir ‘sut olwg sydd ar dda da’ pan ddaw at ddarparu gwerth cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r diffyg arweinyddiaeth hwn yn cyfyngu effaith posib ein hymdrechion cyfunol ac yn arwain at ddefnydd aneffeithlon o’n hadnoddau prin.

  • Datrysiad arfaethedig: Bydd y Glymblaid Effaith Gymdeithasol yn uno cynrychiolwyr o sectorau allweddol i sicrhau dull cynhwysol wedi ei gydlynu’n well er mwyn datrys heriau cymdeithasol ac amgylcheddol yng Nghymru.

Diffyg cyfalaf: Un o’r prif heriau yw’r prinder cyfalaf sydd ar gael i fentrau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r bwlch cyllidol hwn yn lliniaru gallu sefydliadau i yrru newid cymdeithasol o bwys, yn enwedig mewn meysydd sy’n gofyn buddsoddiad sylweddol megis datgarboneiddio, addysg ac iechyd. Mae yna ganfyddiad tu hwnt i Gymru nad ydym yn barod ar ei gyfer, a bod yna brinder o brosiectau i fuddsoddi ynddynt sydd o raddfa digon mawr i ddenu buddsoddwyr mawr.

  • Datrysiad arfaethedig: Bwriad y Glymblaid Effaith Gymdeithasol yw denu gwerth £1 biliwn o fuddsoddiad effaith gymdeithasol i Gymru o fewn 10 mlynedd, gan ddenu cyfraniadau o fuddsoddwyr preifat, sefydliadau a busnesau. Byddwn yn gwneud hyn drwy gysoni ein cymalau gwerth cymdeithasol a chydlynu ein gweithgarwch ESG ymysg dulliau eraill. Byddwn yn datblygu prosiectau ar raddfa genedlaethol gall ddenu cyfalaf rhyngwladol yn well ochr yn ochr â hyn.

Cydlynu ar draws sectorau: Mae taclo heriau cymhleth, cydgysylltiol yn mynnu ymdrechion sydd wedi eu cydlynu’n dda ar draws pob sector. Eto, ar hyn o bryd mae Cymru yn methu i wneud hyn yn dda, sy’n arwain at draweffaith is na’r nod, dulliau anghyson o asesu a defnydd aneffeithlon o gyfalaf.

  • Datrysiad arfaethedig: Bydd y Glymblaid Effaith Gymdeithasol yn cytuno ar fframwaith gwerth cymdeithasol cyffredin, ac yn adeiladu partneriaethau traweffaith uchel ar draws y sector bydd a’r potensial i newid pethau ar lefel cenedlaethol.

Diffyg arloesi mewn Cyllid Cymdeithasol: Yn gyffredinol, mae yna ddiffyg arloesi yn nhermau cyllido prosiectau traweffaith gymdeithasol yng Nghymru. Mae offerynnau ariannu traddodiadol yn aml yn annigonol, ac mae yna ddiffyg uchelgais wrth ddylunio prosiectau gwerth cymdeithasol sy’n meddwl ein bod yn tueddu i ganolbwyntio ar ddatrys materion lleol penodol yn hytrach na meddwl yn nhermau holistaidd gan ystyried problemau mewn modd systemig.

  • Datrysiad arfaethedig: Drwy’r Fforwm Gyllid Cymdeithasol, byddwn yn dadlau o blaid modelau newydd o gyllid cymdeithasol ac yn darparu gofod i arweinwyr o’r sectorau cyhoeddus a preifat i gydweithio ac i ystyried datrysiadau cyllido newydd.

 

Pam Cymru?

Mae Cymru yn wynebu nifer o heriau sylweddol, ond mae gennym hanes cadarn o entrepreneuriaeth gymdeithasol a gweithredu cymunedol trawsnewidiol.

Dyma fan geni’r mudiad cydweithredol a’r Gwasanaeth Iechyd ac mae bellach yn gartref i drydydd sector sydd ymysg y mwyaf datblygedig yn Ewrop.

Mae hefyd gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol, y cyntaf o’i fath yn y byd, sy’n gorfodi mewn cyfraith meddwl a gwneud penderfyniadau mewn modd hir dymor a chynaliadwy ar draws ein cyrff cyhoeddus.

Yn gryno, rydym yn deall beth yw traweffaith gymdeithasol o safon, ac o weithio gyda’n gilydd mae ein maint bach yn golygu gallwn gyflawni pethau gwych yn gyflym.

 

Casgliad

Mae nifer o fusnesau, cyllidwyr a chyrff cyhoeddus Cymru yn arwain y ffordd ac yn gwneud gwaith da yn barod, ac yn gwneud gwahaniaeth o bwys sydd o werth mawr i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Eto, credaf y gallwn – drwy weithio gyda’n gilydd – gyflawni mwy fyth. O gydweithio, credaf y gallwn greu newid cenedlaethol o bwys a sefydlu model newydd ar gyfer darparu gwerth cymdeithasol er lles Cymru, ei chymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.

 

Camau Nesaf

Ar 21ain o Fehefin 2024, byddaf yn cynnal trafodaeth gyda rhai o fusnesau, cyllidwyr, cyrff cyhoeddus ac elusennau pennaf Cymru i weld sut y gallwn ddatblygu’r gwaith. Os hoffech chi ymuno a’r drafodaeth neu gefnogi ein hymdrechion mewn unrhyw fodd, anfonwch neges.

https://www.socialimpact.cymru/

 

 

 

 

 

 

 

 

Cydlynu ar draws sectorau: Mae taclo heriau cymhleth, cydgysylltiol yn mynnu ymdrechion sydd wedi eu cydlynu’n dda ar draws pob sector. Eto, ar hyn o bryd mae Cymru yn methu i wneud hyn yn dda, sy’n arwain at draweffaith is na’r nod, dulliau anghyson o asesu a defnydd aneffeithlon o gyfalaf.

 

Datrysiad arfaethedig: Bydd y Glymblaid Effaith Gymdeithasol yn cytuno ar fframwaith gwerth cymdeithasol cyffredin, ac yn adeiladu partneriaethau traweffaith uchel ar draws y sector bydd a’r potensial i newid pethau ar lefel cenedlaethol.

 

 

 

 

 

 

 

Diffyg arloesi mewn Cyllid Cymdeithasol:

Yn gyffredinol, mae yna ddiffyg arloesi yn nhermau cyllido prosiectau traweffaith gymdeithasol yng Nghymru. Mae offerynnau ariannu traddodiadol yn aml yn annigonol, ac mae yna ddiffyg uchelgais wrth ddylunio prosiectau gwerth cymdeithasol sy’n meddwl ein bod yn tueddu i ganolbwyntio ar ddatrys materion lleol penodol yn hytrach na meddwl yn nhermau holistaidd gan ystyried problemau mewn modd systemig.

 

 

 

Datrysiad arfaethedig: Drwy’r Fforwm Gyllid Cymdeithasol, byddwn yn dadlau o blaid modelau newydd o gyllid cymdeithasol ac yn darparu gofod i arweinwyr o’r sectorau cyhoeddus a preifat i gydweithio ac i ystyried datrysiadau cyllido newydd.

 

 

 

 

 

Pam Cymru?

 

 

Mae Cymru yn wynebu nifer o heriau sylweddol, ond mae gennym hanes cadarn o entrepreneuriaeth gymdeithasol a gweithredu cymunedol trawsnewidiol.

 

Dyma fan geni’r mudiad cydweithredol a’r Gwasanaeth Iechyd ac mae bellach yn gartref i drydydd sector sydd ymysg y mwyaf datblygedig yn Ewrop.

 

Mae hefyd gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol, y cyntaf o’i fath yn y byd, sy’n gorfodi mewn cyfraith meddwl a gwneud penderfyniadau mewn modd hir dymor a chynaliadwy ar draws ein cyrff cyhoeddus.

 

Yn gryno, rydym yn deall beth yw traweffaith gymdeithasol o safon, ac o weithio gyda’n gilydd mae ein maint bach yn golygu gallwn gyflawni pethau gwych yn gyflym.

 

 

Casgliad

 

Mae nifer o fusnesau, cyllidwyr a chyrff cyhoeddus Cymru yn arwain y ffordd ac yn gwneud gwaith da yn barod, ac yn gwneud gwahaniaeth o bwys sydd o werth mawr i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

 

Eto, credaf y gallwn – drwy weithio gyda’n gilydd – gyflawni mwy fyth. O gydweithio, credaf y gallwn greu newid cenedlaethol o bwys a sefydlu model newydd ar gyfer darparu gwerth cymdeithasol er lles Cymru, ei chymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.

 

 

 

 

 

 

Camau Nesaf

 

Ar 21ain o Fehefin 2024, byddaf yn cynnal trafodaeth gyda rhai o fusnesau, cyllidwyr, cyrff cyhoeddus ac elusennau pennaf Cymru i weld sut y gallwn ddatblygu’r gwaith. Os hoffech chi ymuno a’r drafodaeth neu gefnogi ein hymdrechion mewn unrhyw fodd, anfonwch neges.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This