Bwyd a Diod Cymru i gynnal Cynhadledd Cynaliadwyedd 2024

Mehefin 2024 | O’r afon i’r môr, O’r pridd i’r plât, Sylw

brown and white nuts on white ceramic bowl

Mae Cynhadledd Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru i gael ei gynnal ar ddydd Mercher 3 Gorffennaf gyda’r nod o edrych ar rôl cynaladwyedd wrth hybu busnesau cynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru. Mae’r gynhadledd yn ganlyniad cydweithio rhwng Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru a Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru.

Thema’r gynhadledd eleni yw ‘Paratoi Cymru ar gyfer y dyfodol’. Nod y diwrnod yw annog rhwydweithio ac arfer da drwy amryw o weithgareddau rhyngweithiol a chyflwyniadau. Bydd yna bwyslais penodol ar godi ymwybyddiaeth ynghylch mewnwelediadau marchnad, tueddiadau defnyddwyr a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol i fân-werthwyr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn eiddgar i ddangos eu hymrwymiad i hybu arferion cynaliadwy yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru drwy ddangos sut y mae’r diwydiant wedi esblygu a newid yn barod.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd rhwng 9:30 a 16:30. Mae modd cofrestru i fynychu yn rhad am ddim drwy ddilyn y ddolen hon i’r dudalen Eventbrite.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This