Gydag ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol bellach yn ei anterth, mae tîm Arsyllfa wedi bwrw golwg ar sawl maniffesto gan y prif bleidiau er mwyn gweld yr hyn sydd ganddynt i ddweud ynghylch cefn gwlad a’r economi wledig. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn rhoi’n sylw i’r holl brif bleidiau sydd ag ymgeiswyr yng Nghymru ac yn astudio beth yn union yw eu cynigion polisi o safbwynt cefn gwlad, amaeth, ynghyd a thlodi, gwasanaethau a’r economi wledig.
Yma, byddwn yn edrych yn gyflym ar rhai o brif bolisïau maniffesto’r Blaid Lafur. Ymysg y cynigion sydd i’w canfod yn y maniffesto mae’r polisïau canlynol:
- Addewid i osod ‘cwmnïau dwr sy’n methu’ mewn mesurau arbennig. Rhoi grymoedd ychwanegol i reoleiddion i atal taliadau bonws i weithredwyr cwmnïau dŵr sy’n methu i atal llygredd. Dirwyon i’r cwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio a’r rheoliadau.
- Gosod targed i hanner o’r holl fwyd sy’n cael ei brynu yn y sector gyhoeddus i gael ei gynhyrchu’n lleol neu o ansawdd amgylcheddol uchel.
- Cyflwyno fframwaith defnydd tir ac addo i wneud i gynlluniau rheoli tir i weithio ar gyfer ffermwyr a natur.
- Addewid i waredu TB mewn gwartheg drwy gydweithio a ffermwyr a gwyddonwyr. Ymrwymiad i orffen difa moch daear, sy’n cael ei alw’n ‘aneffeithiol’.
- Hyrwyddo sectorau o bwysigrwydd strategol i Gymru, megis cig oen, yn rhyngwladol.
- Dod a ffermio cŵn i ben.
- Gwahardd defnydd maglau wrth hela.
- Cyd-weithio gyda’r sector breifat i sicrhau fod cyflenwad ynni gwynt o dyrbinau ar y tir mawr yn dyblu. Cynhyrchu tair gwaith yn fwy o ynni drwy ddulliau solar, a phedair gwaith yn fwy o dyrbinau ar y môr.
Yn amlwg mae nifer o’r cynigion uchod yn rhai sy’n perthyn i feysydd datganoledig ac felly nid yw’r addewidion hyn yn berthnasol i etholwyr yng Nghymru fel y cyfryw. Eto, diddorol bydd gweld beth fydd effaith unrhyw bolisïau y bydd y llywodraeth nesaf yn San Steffan yn ei gael ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu, ac os yw unrhyw gynnydd mewn gwariant mewn meysydd penodol yn caniatáu newidiadau cyfatebol yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o wir os yw Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol, gan y bydd yna lywodraethau Llafur ar ‘ddau ben yr M4’.
Am fwy o fanylion ynghylch yr hyn y mae maniffesto’r Blaid Lafur yn ei gynnig, dilynwch y ddolen hon i ddarllen y ddogfen yn ei gyfanrwydd.