Gydag ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol bellach yn ei anterth, mae tîm Arsyllfa wedi bwrw golwg sawl maniffesto gan y prif bleidiau er mwyn gweld yr hyn sydd ganddynt i ddweud ynghylch cefn gwlad a’r economi wledig. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn rhoi’n sylw i’r holl brif bleidiau sydd ag ymgeiswyr yng Nghymru ac yn astudio beth yn union yw eu cynigion polisi o safbwynt cefn gwlad, amaeth, ynghyd a thlodi, gwasanaethau a’r economi wledig.
Yma, byddwn yn edrych yn gyflym ar rhai o brif bolisïau maniffesto’r Ceidwadwyr. Ymysg y cynigion sydd i’w canfod yn y maniffesto mae’r polisïau canlynol:
- Hybu cymunedau gwledig a chefnogi ffermwyr drwy osod targedau cyfreithiol a buddsoddiad ychwanegol ar gyfer sicrhau diogelwch bwyd. Bydd y targedau hyn yn berthnasol ar draws y DU.
- Lansio Mynegai Diogelwch Bwyd er mwyn cynorthwyo penderfyniadau ynghylch lle i ddynodi’r arian o’r gyllideb amaeth.
- Cynnydd o £1 biliwn yng nghyllideb ffermio ar draws y DU dros gyfnod nesaf Senedd San Steffan, gan addo ei fod yn cynyddu i gyd-fynd a chwyddiant bob blwyddyn.
- Parhau i glustnodi’r gyllideb amaeth fel bod yr arian yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i gymunedau gwledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Cronfa Arloesi Amaethyddol gwerth £20 miliwn.
- Gwarchod y tir amaethyddol gorau rhag cael ei ddefnyddio i leoli ffermydd solar sy’n gallu amharu ar y gallu i gynhyrchu bwyd.
- Parhau’r moratoriwm ar ffracio yn y DU.
- Sicrhau gwell darpariaeth o ddeintyddiaeth mewn cymunedau gwledig ac arfordir drwy ddarparu cynigion ariannol i ddeintyddion fynd i weithio yn yr ardaloedd hyn ynghyd a darparu faniau deintyddiaeth bydd a’r gallu i deithio i ardaloedd mwy anghysbell i ddarparu gwasanaethau deintyddol. Mae yna hefyd addewid i hyfforddi mwy o staff y gwasanaeth iechyd mewn ardaloedd gwledig.
- Buddsoddi mewn technoleg newydd i sicrhau fod rhyngrwyd band eang cyflym ar gael yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell.
Yn amlwg mae nifer o’r cynigion uchod yn rhai sy’n perthyn i feysydd datganoledig ac felly nid yw’r addewidion hyn yn berthnasol i etholwyr yng Nghymru fel y cyfryw. Eto, diddorol bydd gweld beth fydd effaith unrhyw bolisïau y bydd y llywodraeth nesaf yn San Steffan yn ei gael ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu, ac os yw unrhyw gynnydd mewn gwariant mewn meysydd penodol yn caniatáu newidiadau cyfatebol yng Nghymru.
Am fwy o fanylion ynghylch yr hyn y mae maniffesto’r Ceidwadwyr yn ei gynnig, dilynwch y ddolen hon i ddarllen y maniffesto yn ei gyfanrwydd.