Eryri: Newid canfyddiadau a darparu ar gyfer anghenion y dyfodol

Mehefin 2024 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Mae hwn yn flog gwadd gan Alex Ioannou. Mae Alex o Gyprus ac yn ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Bangor. Fe hyfforddodd fel pensaer tirlun ac mae ganddo brofiad yn y sectorau amgylcheddol a threftadaeth.

‘The Country looks like the fag End of Creation; the very Rubbish of Noah’s Flood; and will (if any thing) serve to confirm a Epicurean in his Creed, That the World was made by Chance.’

Dyma ymateb teithiwr yn ymweld ag Eryri yn gynnar yn y 18fed ganrif, ar adeg pan oedd tirluniau o’r fath yn cael eu gweld fel mannau gwrthun. Mae’r hanesydd celf Malcolm Andrews yn datgan ‘a country which was unimproved, agriculturally or ornamentally, and which looked incapable of such improvement, had little appeal’ i lygaid Awgwstaidd. Mae yna newid dramatig wedi bod ers hynny, gan fod Eryri bellach yn Barc Cenedlaethol, lle mae’r un nodweddion tirlun yn cael eu dathlu a’u gwarchod.

Mae newid hinsawdd a lleihad mewn bioamrywiaeth wedi ysgogi myfyrdodau digynsail ar berthynas pobl a’r tirlun gyda sylw sylweddol yn cael ei roi i dirluniau penodedig, megis Parciau Cenedlaethol. Mae hanes hirfaith o newidiadau yn nefnydd y tir, amrywiaethau yn yr amodau economaidd a chymdeithasol ynghyd a pherchnogaeth, ynghyd ac esblygiad yn y gweledigaethau sydd o natur, wedi gwneud Parc Cenedlaethol Eryri yn dirlun ag iddo “ddyfnder sylweddol”. Yn y ddegawd y mae Llywodraeth Cymru yn ei alw’n “ddegawd tyngedfennol” i gael rheolaeth ar newid hinsawdd, mae penderfyniadau ynghylch newidiadau i’r modd y mae tir yn cael ei ddefnyddio yn golygu mynd i’r afael ag atebion llawer ehangach ynghylch trawsnewidiadau cyfiawn a theg tuag at gymdeithas adfywiol.

Yn fy ngwaith fel ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Bangor, rwyf yn archwilio sut y mae systemau penderfynu ynghylch tirlun Cymru yn cael ei rwystro rhag cyrraedd sero-net gan: 1) gweledigaeth a disgwyliadau cyfyngedig o dirluniau Cymru a 2) prosesau lleol nad ydynt wedi democrateiddio’n ddigonol. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar Ddyffryn Ogwen, tirlun oedd unwaith yn eiddo i ac yn cael ei reoli gan Stad Penrhyn ac sydd wedi cael ei ddynodi’n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Mae fy nghanfyddiadau yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor wedi caniatáu i fi ddechrau gosod Dyffryn Ogwen yn ei gyd-destun hanesyddol, drwy gyflwyno ei esblygiad dros amser, nid yn unig mewn termau ffisegol ond hefyd yn nhermau’r modd fe’i dehonglir. Mae cyfres o bymtheg cyfweliad a thrigolion lleol wedi datgelu profiadau amrywiol a chyfoethog o’r tirlun, ynghyd a’r credoau sy’n bodoli ynghylch hanes y lle a’u gweledigaethau unigol ar gyfer ei ddyfodol.

Drwy fy ngwaith rhyngddisgyblaethol, fy mwriad yw dangos fod y syniadaethau pennaf sy’n cael eu harddel ynghylch tirluniau yng Nghymru yn rhai sydd yn cael eu cynhyrchu yn hytrach na bod yn rai naturiol, a bod amrywiaeth o syniadau ynghylch natur yn gallu cyd-fodoli ar unwaith. Yn y pen draw, amcan y prosiect yw hysbysu’r rheini sydd yn gwneud penderfyniadau yn lleol am bwysigrwydd cynnwys safbwyntiau hanesyddol ac o’r dyfodol yn eu prosesau.

Estynnaf wahoddiad i chi i ymuno a mi mewn arddangosfa ryngweithiol bydd yn taro golau ar y newidiadau amrywiol y mae Eryri wedi ei brofi’n barod. Bydd Newid Eryri/Changin Eryri yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Pontio ym Mangor rhwng yr 8fed a 17eg o Awst 2024. Bydd yna hefyd ddigwyddiad rhannu gwybodaeth ar ddydd Sadwrn y 10fed o Awst.

Mae’r prosiect Ailfframio Cymru yn fenter ar y cyd rhwng dau o ganolfannau ymchwil Prifysgol Bangor, sef Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts.

I ddarganfod mwy ynghylch y prosiect Ailfframio Cymru ac ynghylch yr arddangosfa Newid Eryri/Changing Eryri, ewch i wefan y prosiect drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This