A allai Brexit fod yn sbardun ar gyfer dull newydd o ddatblygu gwledig?

Ionawr 2020 | Polisi gwledig, Sylw

Yn ddiweddar, adolygodd grŵp cynghori’r prosiect bapur a gyhoeddwyd yn 2018, ‘Ar ôl Brexit: 10 cwestiwn allweddol o ran polisi gwledig yng Nghymru’. Gyda chyfraniadau gan nifer o arbenigwyr academaidd amlwg, mae’r darn yn rhoi ystyriaeth feddylgar i effaith bosibl Brexit ar gymunedau gwledig, gan gwestiynu sut y dylai strategaethau polisi newid er mwyn lliniaru’r bygythiadau a manteisio ar unrhyw gyfleoedd.

Mae awduron yr adroddiad yn amlinellu gwendidau posibl byd ar ôl Brexit, lle mae cymorthdaliadau amaethyddol a chyllid hael yr UE ar gyfer datblygu gwledig yn dod i ben, ynghyd â phosibilrwydd colli marchnadoedd allforio. Maen nhw’n dadlau bod yr heriau strwythurol hyn yn gorfodi dull newydd, os nad ailfeddwl am y polisi datblygu gwledig yn llwyr.

Mae’r economi wledig wedi’i gwreiddio yn amgylchedd naturiol Cymru, ac er bod amaethyddiaeth yn ddiwydiant pwysig, nid dyna’r darlun cyfan. Cydnabyddir bod marchnadoedd cynyddol ym maes twristiaeth a bwyd, meysydd lle mae Cymru wledig mewn sefyllfa dda i arloesi. Mae cyfleoedd hefyd i feithrin sectorau arbenigol, megis garddwriaeth, cynhyrchu bwyd yn lleol i’w ddefnyddio’n lleol, a chynhyrchu nwyddau moethus, megis cashmir a gwlân.

Mae Cymru wledig hefyd yn agored i newid demograffig, a allai fod yn waeth ar ôl Brexit. Er nad oedd erioed gyfran uchel o wladolion yr UE yn byw yng nghefn gwlad Cymru, mae nifer ohonynt yn gweithio mewn sectorau penodol, gan gynnwys mewn twristiaeth, lletygarwch a chynhyrchu bwyd. Bydd y posibilrwydd o golli’r gwladolion hyn o’r UE, pobl ifanc yn allfudo a phobl wedi ymddeol yn mewnfudo, yn herio llunwyr polisïau gwledig ymhellach.

Bydd cystadleuaeth lem hefyd am adnoddau prin: yn sgil y diffyg arian wedi’i glustnodi gan yr UE, bydd prosiectau amaethyddol a datblygu gwledig yn cystadlu am yr un cronfeydd arian â gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, pob un ohonynt wedi gweld toriadau mawr yn eu cyllidebau.

Mae’r adroddiad yn dadlau y bydd angen strwythurau llywodraethu gwahanol er mwyn i gymunedau gwledig addasu i fyd sy’n newid yn sylweddol. Un enghraifft o hyn yw’r ffaith bod busnesau mawr sydd eisoes â diddordeb yn y Gymru wledig – fel cwmnïau cyfleustodau neu fanwerthwyr bwyd mawr, sy’n prynu gan gyflenwyr gwledig ac yn gwerthu i gwsmeriaid gwledig – yn chwarae mwy o ran yn y gwaith o lywodraethu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus.

Fe wnaeth canlyniad refferendwm 2016 ar aelodaeth y DU o’r UE orfodi trafodaeth ar sut y caiff arian cyhoeddus ei wario mewn ardaloedd gwledig a gwelwyd pa mor fregus yw diwydiant ffermio sy’n dibynnu ar gymorthdaliadau. Mewn ymateb, mae’r adroddiad yn taflu goleuni ar sut y gallai newid ymagwedd, a gyflwynwyd oherwydd heriau Brexit, gynnig cyfleoedd i Gymru wledig.

Darllenwch yr asesiad dichonoldeb llawn a’r adroddiadau cysylltiedig isod:

Asesiad dichonoldeb

After Brexit: 10 key questions for rural policy in Wales

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This