Mae’r Prosiect Asedau Gwledig sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Caledonian Glasgow wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal digwyddiad ar lein ar 26 Chwefror 2024 mewn cydweithrediad a BCT Cymru, The Green Valleys Cymru, a’r Sefydliad Materion Cymreig ar berchnogaeth gymunedol a throsglwyddo asedau cymunedol yng Nghymru. Bwriad y digwyddiad yw edrych ar yr amodau unigryw perchnogaeth gymunedol yng Nghymru, tra hefyd yn edrych ar wledydd eraill y DG i ddysgu gwersi gwerthfawr ynghylch sut i ddatblygu’r sector.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys y cyfle i glywed o swyddog o Lywodraeth yr Alban ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, ymchwil newydd o Ymddiriedolaeth Plunkett, Building Communities Trust a’r Prosiect Asedau Gwledig, a straeon o unigolion sydd wedi bod yn rhan o brosiectau asedau cymunedol yng Nghymru.
Mae diddordeb mewn perchnogaeth gymunedol yng Nghymru yn tyfu, ac mae’r digwyddiad yn addo i fod yn gyfle i’r rheini sy’n rhan o’r maes neu a diddordeb mewn dysgu mwy i rannu profiadau a syniadau.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10yb a 3yh ac fe fydd cyfieithu ar y pryd ar gael. Am fwy o wybodaeth, ac i archebu eich lle, ewch i’r dudalen ar gyfer y digwyddiad.