Mae Business News Wales wedi cyhoeddi podlediad gan Dr Gary Walpole am yr economi gylchol, ei oblygiadau i fusnesau bach a chanolig, a’r hyn gellid ei wneud i’w hyrwyddo. Mae Dr Walpole yn gyfarwyddwr ar Brosiect Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (Circular Economy Innovation Communities neu CEIC) ym Mhrifysgolion Abertawe a Met Caerdydd. Yn y podlediad mae’n amlinellu’r cymorth sydd ar gael i helpu busnesau i wneud newidiadau i’w ffordd o weithio er mwyn sicrhau dull mwy cylchol o wneud busnes a hefyd yn trafod dulliau i sicrhau ffynonellau cyllid posib.
Mae Dr Walpole yn gwahaniaethu rhwng yr economi gylchol a’r economi unionlin. Diffinia Dr Walpole yr economi unionlin fel un sy’n defnyddio adnoddau crai o’r ddaear i greu nwyddau a wedyn eu taflu. Mae economy gylchol yn fodel gwahanol lle mae adnoddau crai yn cael ei defnyddio a’u hail ddefnyddio yn gyson mewn cylchdro gan olygu fod yna lai o angen am adnoddau crai.
I ddysgu mwy am yr hyn sydd gan Dr Walpole i ddweud ac i wrando ar y podlediad, dilynwch y ddolen hon i wefan Business News Wales.