Mae ymchwil newydd wedi ei gyhoeddi gan y National Innovation Centre for Rural Enterprise yn edrych ar effaith gweithio o bell ar gymunedau cefn gwlad. Mae’r adroddiad cychwynnol wedi ei gyhoeddi yn sgil ymchwil sy’n cael ei gynnal gan fyfyriwr PhD o’r enw Kirsten Clarke.
Mae’r ymchwil yn edrych ar effaith Cofid-19 ar sut y mae pobl yn gweithio mewn cymunedau gwledig a sut mae creu cymunedau llewyrchus yn dilyn y pandemig. Yn rhan o’r gwaith hwn, mae hi wedi edrych yn benodol ar sut y gall y byd gwaith newydd fod o fudd i economi a ffordd o fyw cefn gwlad.
I ddysgu mwy am yr ymchwil dilynwch y ddolen hon i wefan y National Innovation Centre for Rural Enterprise.