Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn edrych ar ffyrdd posib o atal dirywiad yn ffigyrau poblogaeth Cymru. Yn ôl y Ganolfan mae angen polisïau bydd yn caniatáu cynnydd mewn ffrwythlondeb, dulliau o gadw a denu pobl o oed gweithio i Gymru er mwyn atal effeithiau economaidd a cymdeithasol negyddol sy’n dyfod yn sgil poblogaeth sy’n lleihau o ran nifer ac yn heneiddio’n ormodol. Drwy edrych ar enghreifftiau rhyngwladol o bolisïau a thechnegau i fynd i’r afael a’r broblem, mae’r Ganolfan wedi casglu ynghyd nifer o ymyraethau posib gellid ei ddefnyddio i helpu i gynyddu poblogaeth yr ifanc Cymru.
O ganlyniad i dueddiadau ffrwythlondeb a marwoldeb yng Nghymru, mae mwy o bobl yn marw nac yn cael eu geni yma ers 2015/16. Canlyniad hyn yw mwy o bobl hyn, a lleihau yn nifer o bobl ifanc a phobl sy’n gweithio.
Comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r dystiolaeth orau ynghylch sut y mae gwledydd eraill yn mynd i’r afael a’r broblem gan edrych ar dri maes penodol:
- Hwyluso a hyrwyddo ffrwythlondeb
- Cadw pobl, yn enwedig gweithwyr ifanc a gweithwyr a sgiliau arbennig
- Denu mewnfudwyr, yn enwedig gweithwyr ifanc a gweithwyr a sgiliau arbennig
Mae’r adroddiad yn dadlau fod polisïau sy’n annog pobl i gael plant ac yn gwneud y broses honno’n haws yn dyngedfennol, megis caniatáu seibiant o’r gwaith i rieni newydd a sicrhau gwasanaethau gofal plant fforddiadwy. Eto, law yn llaw a hyn mae’r adroddiad hefyd yn dadlau bod rhaid sicrhau fod y plant hynny yn aros yn y wlad yn yr hir dymor, ac felly mae sicrhau cadw poblogaeth a denu mewnfudwyr yn allweddol i sicrhau dyfodol poblogaeth ifanc Cymru.
Gallwch ddysgu llawer mwy am y gwaith ynghyd a mynediad at yr adroddiad yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.