Mae cyfle i chi gael dweud eich dweud am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Cymru yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y mater. Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i chi mynegi eich barn ar y cynlluniau arfaethedig, rhoi adborth ynghylch yr hyn sy’n cael ei gynnig, a chynnig gwelliannau posib i’r Llywodraeth. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 15 Rhagfyr 2023, ac mae’n rhedeg nes 7 Mawrth 2024.
Daw’r ymgynghoriad yng nghyd-destun cyfnod tymhestlog i fyd ffermio Cymru. Mae cynlluniau diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch sector amaeth yng Nghymru wedi achosi ffermwyr ac undebau i fynegi pryder am ddyfodol y diwydiant, o ganlyniad i’r ansicrwydd sydd yn deillio o doriad mewn cyllid a newid mewn polisïau amgylcheddol. Mae gofynion penodol ynghylch yr angen i blannu coed ar diroedd wedi profi’n hynod ddadleuol.
Mae tudalen yr ymgynghoriad yn cynnwys gwybodaeth angenrheidiol i ffermwyr a’r cyhoedd ehangach ynghylch y cynlluniau arfaethedig, gan gynnwys y ddogfen ymgynghori ei hun sy’n amlinellu’r diwygiadau’r Cynllun, asesiad o effaith economaidd y Cynllun arfaethedig ynghyd ag asesiad effaith integredig ohono.
Mae modd ymateb i’r cynlluniau drwy lenwi ffurflen ar-lein, drwy e-bost neu drwy anfon copi caled drwy’r post.
Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am y Cynllun a’r ymgynghoriad drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae hefyd modd mynychu digwyddiadau gwybodaeth arbennig ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy dros y misoedd nesaf. Dilynwch y ddolen hon am fwy o wybodaeth.