Mae arolwg newydd o dros 1,000 o oedolion yng Nghymru wedi dangos fod y mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru yn gefnogol o’r egwyddor o Lywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol i ffermwyr i gynhyrchu bwyd.
Cynhaliwyd yr arolwg gan YouGov i NFU Cymru, cyn cyhoeddi’r canfyddiadau ar drothwy’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Roedd 82% o’r rheini wnaeth ymateb i’r arolwg yn gefnogol o Lywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yn ariannol, gyda 72% yn dweud fod cefnogi ffermwyr Cymru yn ddefnydd da o wariant cyhoeddus o ystyried blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywydd NFU Cymru Aled Jones:
‘Roedd datganiad ail-flaenoriaethu Llywodraeth Cymru fis diwethaf yn rhybudd o’r diffyg y mae’r llywodraeth yn ei hwynebu yn y flwyddyn ariannol hon, ynghyd a’r her barhaus y bydd Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu wrth osod cyllidebau’r dyfodol ar draws ei phortffolios yn y blynyddoedd sydd i ddod.
‘Yn ein hymgysylltu cyson gydag Aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru ynghyd ac ASau, dywedir wrth NFU Cymru y dylai’r undeb ddangos gwerth ffermio nid yn unig i’r llywodraeth, ond hefyd i’r trethdalwr. Yr wyf, felly, wedi fy moddhau’n fawr fod ein harolwg a gomisiynwyd yn ddiweddar wedi dangos y lefelau uchel o gefnogaeth ymysg y cyhoedd ar gyfer cymorth i amaeth Cymru ac, yn benodol, i gymorth ariannol i ffermwyr i gynhyrchu bwyd.’
Gallwch ddysgu mwy am yr arolwg a’r canfyddiadau drwy ymweld a gwefan NFU Cymru.