Mae Cyngor Mynydda Prydain wedi cyhoeddi eu bod wedi gosod system monitro gaeaf ar Glogwyn y Garnedd yn Eryri. Mae hyn yn dilyn llwyddiant systemau tebyg yng Nghwm Idwal a Chwm Cneifion tymor diwethaf.
Mae Clogwyn y Garnedd ymysg y mannau mwyaf poblogaidd i fynyddwyr yn ystod y gaeaf, ac wedi ei leoli ar uchder sydd yn caniatáu cylchdro amodau cyson drwy’r tymor. Mae amodau penodol y lleoliad yn darparu cyfle unigryw i fonitro’r hyn sy’n digwydd yn nhermau hinsawdd yr ardal ac i astudio effaith newidiadau yn yr amodau ar ecosystemau yno.
Un o amcanion y cynllun yw cynorthwyo cadwraeth deg o’r planhigion arctig-alpaidd mwyaf prin ynghyd a dau o’r infertebratau mwyaf prin ym Mhrydain, gan gynnwys Chwilen Enfys Eryri. Mae’r rhywogaethau hyn, sy’n gynhenid i Brydain ac wedi bod yma ers oes yr ia, i’w canfod ar Glogwyn y Garnedd.
Bydd y rheini sy’n dringo’r llethrau hefyd yn elwa o wybodaeth tymheredd gan ganiatáu iddynt ddadansoddi’r amodau dringo yn well gan fod y ddaear yn dadmer a chynnydd mewn tymheredd yn gallu achosi peryglon.
Dywedodd Tom Carrick, Swyddog Mynediad Cymreig Cyngor Mynydda Prydain:
‘Hoffwn weld dringwyr yn defnyddio’r offeryn hwn mewn modd tebyg i sut yr ydym yn ymgynghori a rhagolwg tywydd a gwirio llyfrau tywys. Mae hyn i gyd yn cyfrannu at ffurfio darlun cynhwysfawr o’r amodau ar Glogwyn Y garnedd. Bydd angen o hyd i ddringwyr asesu adroddiadau ac amodau yn annibynnol, ond dylai’r adnodd hwn ganiatáu modd mwy gwybodus o ddyfarnu amodau mwy diogel.’
Dywedodd Robbie Blackhall-Miles ar ran Plantlife:
‘Mae Clogwyn Y Garnedd yn sefyll fel gwarchodfa hanfodol i rai o’r planhigion arctig-alpaidd mwyaf prin ynghyd a Chwilen Enfys Eryri sy’n anodd ei ddal – mae hyn yn dyst i’w bwysigrwydd ecolegol. Tu hwnt i’w ryfeddodau naturiol, mae’r Trinity Face yn gweithredu fel hafan i ddringo gaeaf ac fel arsyllfa hinsawdd unigryw.’
‘Bellach, wedi’n harfogi gyda’r data arbenigol a’r rhagolygon tywydd hyn, rydym yn ennill dealltwriaeth hynod o amodau’r wyneb – naid ymlaen i werthfawrogi a gwarchod y tirlun rhyfeddol hwn.’
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Mynydda Prydain.