Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi eu bod am gynnal sesiynau diogelwch fferm ar y cyd â Phartneriaeth Diogelwch Fferm yn y Ffair Aeaf eleni. Nod y gweithdai hyn bydd i ysbrydoli arferion diogel ymysg aelodau ifanc o’r diwydiant, gan sicrhau eu bod yn meddu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol sydd ei angen i helpu i wella diogelwch ar ffermydd Cymru.
Mae gwahoddiadau wedi eu hanfon i golegau amaethyddol Cymru ynghyd ac ysgolion uwchradd sy’n dysgu amaethyddiaeth i ddod i Adeilad Lantra ar faes y sioe yn Llanelwedd. Yno bydd Brian Rees, sy’n hyfforddwr iechyd a diogelwch gyda Cyswllt Ffermio ynghyd a bod yn ffarmwr, yn rhoi cyflwyniadau i’r myfyrwyr ar ddiogelwch fferm am 11yb a 2yh ar ddyddiau Llun a Mawrth 27 a 28 Tachwedd.
Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ynghyd a phresenoldeb arferol Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn Neuadd Morgannwg, lle bydd cyfle i ennill helmed ATV mewn cystadleuaeth ddyddiol.
Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn trefnu sesiynau ar ddiogelwch yn Adeilad Lantra, lle bydd darparwyr hyfforddiant yn hyrwyddo’r cyrsiau sydd ganddynt i gynnig yn Ystafell 1. Ar ddydd Llun y Sioe bydd IBERS, JHS Ltd, PMR Ltd, NPTC a Simply The Best Training yn cymryd rhan, tra ar ddydd Mawrth bydd IBERS, Coleg Sir Gâr, Mwmac Ltd, Insynch ac Ambiwlans Sant Ioan yno i rannu gwybodaeth.
Bydd hefyd cymorth ar gael i gwblhau Cynllun Datblygu Personol a modiwlau e-ddysgu ynghyd a help i gyflwyno ceisiadau am gyllid. Bydd angen i’r rheini sydd am fynychu’r sesiynau hyn fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. I ddysgu mwy am yr hyn sydd wedi ei drefnu gan Cyswllt Ffermio, ewch i’w gwefan.