Mae’r tymor prynu hyrddod wedi dechrau ac mae llawer o ffermwyr wrthi’n ceisio prynu er mwyn datblygu eu praidd ymhellach. Dewisir hyrddod yn ôl gofynion unigol y ffarmwr, a sut yn union y mae eisiau addasu’r praidd yn y dyfodol. Gall hyrddod gael eu dewis ar sail nifer o nodweddion megis golwg, cadernid corfforol, maint neu fath o frîd er enghraifft.
Mae Cyswllt Ffermio wedi llunio rhestr o bethau pellach tu hwnt i’r nodweddion amlwg i brynwyr i ystyried wrth fynd ati i ddewis hwrdd. Pwysig yw ystyried y Gwerthoedd Bridio Tybiedig (Estimated Breeding Values neu EBVs) sy’n cymryd golwg fwy cynhwysfawr o eneteg yr anifail a’r gwerth penodol gall ddyfod o nodweddion penodol. I ddarllen y cyngor sydd gan Cyswllt Ffermio i’w gynnig ac i ddatblygu dealltwriaeth well o Werthoedd Bridio Tybiedig, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan.