Mae NFU Cymru ac NFU Mutual wedi cyhoeddi eu bod yn chwilio unwaith eto am ‘Bencampwr Da Byw’ sydd yn gweithio oddi fewn i’r diwydiant amaeth yng Nghymru. Dyma fydd y nawfed tro iddynt ddyfarnu enillydd i wobr ‘Pencampwr Da Byw’r Flwyddyn’ sy’n ceisio gwobrwyo arbenigedd, ymroddiad a brwdfrydedd y rheini sydd yn helpu i gadw stoc ar ffermydd Cymru. Bydd yr enillydd yn derbyn £500 a thlws arbennig.
Dywedodd Rob Lewis, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru, ac un o feirniaid y gystadleuaeth:
‘Yng Nghymru mae gennym ymysg y bîff a’r defaid gorau yn y byd, wedi eu cynhyrchu i’r safonau iechyd anifeiliaid a llesiant uchaf. Mae’r wobr yn ceisio dathlu rhagoriaeth ymysg cynhyrchwyr da byw o Gymru.’
‘Rydym eisiau cydnabod y rôl allweddol gall person da byw rhagorol wneud i fferm dda byw, ac i ddiwydiant da byw Cymru yn ei chyfanrwydd. Bydd yr enillwyr posib yn cael ei beirniadu ar sail eu rheolaeth o’r braidd/fuches, eu cynllunio iechyd anifeiliaid, eu rhaglen fridio, eu sgiliau trin stoc, sut y maent yn cynnwys iechyd a diogelwch yn eu gwaith dydd i ddydd ar y fferm a’u gweledigaeth ar gyfer dyfodol y diwydiant.’
Os oes gennych ddiddordeb yn enwebu rhywun, neu am roi cais eich hun am y wobr, gallwch wneud hynny drwy ymweld â gwefan NFU Cymru i ganfod mwy o wybodaeth.