Mae posibilrwydd y gall sector bîff Cymru fod yn wynebu cyfnod o sefydlogrwydd a hyd yn oed rhywfaint o dwf mewn prisiau yn ôl Hybu Cig Cymru. Yn eu bwletin marchnad misol diweddaraf mae Hybu Cig Cymru yn dweud fod rhagolygon yn dangos bod mwy o sefydlogrwydd yn y farchnad yn debygol wedi i’r nifer o’r lloi sy’n cael ei geni gyfateb ag ystadegau eraill sy’n dangos cyflenwad yn cyfyngu o 2024 ymlaen.
Rhwng Ionawr a Gorffennaf eleni, gostyngodd y nifer y lloi oedd yn cael ei geni 2% o gymharu a’r un cyfnod yn 2022 yn ôl ffigurau y British Cattle Movement Service (BCMS). Dywedodd Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru:
‘Mae ffigurau BCMS sy’n ymwneud â niferoedd y gwartheg dethol ar y ffermydd ar hyn o bryd yn awgrymu y bydd digon o gyflenwad o hyd yn ystod gweddill y flwyddyn hon – ond gall fod yn gyfyng o ddiwedd y flwyddyn nesaf.’
‘Ar y cyfan, mae’n awgrymu y bydd llai o gyflenwad ar ddiwedd 2024 – a dylai hynny roi rhywfaint o optimistiaeth i’r sector.’
Effaith hyn bydd lleihad yn y stoc gwartheg ac felly cynnydd ym mhris bîff, yn ôl Hybu Cig Cymru. I ddysgu mwy am y ffigurau ac i weld bwletin marchnad llawn Hybu Cig Cymru, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan lle gallwch hefyd ganfod holl rifynnau’r bwletin.