Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol wedi cyhoeddi fod dwy gronfa i noddi prosiectau hybu ac adfer natur bellach ar agor i ymgeiswyr wneud cais. Mae cronfa Ariannu Cyfalaf Lleoedd Lleol i Natur yn ariannu cynlluniau sydd yn gwella mannau gwyrdd lleol mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru tra bod y gronfa Rhwydweithiau Natur yn ariannu prosiectau sydd yn ceisio adfer cynefinoedd naturiol sy’n hafan i rywogaethau dan fygythiad.
Gall cymunedau a sefydliadau wneud cais am grantiau hyd at £250,000 o gyllideb o £9.8m ar draws y ddwy gronfa. Mae’r gronfa Ariannu Cyfalaf Lleoedd Lleol i Natur a’r Gronfa Rhwydweithiau Natur ar agor am geisiadau o rhwng £10,000 hyd at yr uchafswm o £250,000 nes 12 Rhagfyr 2023. Os oes gennych syniad i wella ardaloedd naturiol o fewn tref neu ddinas, eisiau datblygu prosiect tyfu bwyd cymunedol neu helpu cymunedau ethnig amrywiol i ymgysylltu â threftadaeth naturiol neu os oes gennych fodd o wella a sefydlogi tiroedd ardaloedd gwarchodedig Cymru mae’r Gronfa Treftadaeth yn eiddgar i glywed gennych.
Mae modd i’r rheini sydd â chwilfrydedd ynghylch wneud cais fynychu gweminar i ymgeiswyr ar 11 Hydref 2023 i ddysgu mwy am y cronfeydd. Am ragor o wybodaeth, ynghyd a rhestr o’r holl ddyddiau allweddol a dull i gofrestru ar gyfer y gweminar, dilynwch y ddolen hon i wefan y Gronfa Treftadaeth.