Mae Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau Cymru yn cynnal digwyddiad rhithiol ar 25 Medi 2023 i lansio dau indecs newydd – Indecs Asedau Cymunedol Cymru a Indecs Cydnerthedd Cymunedol Cymru.
Mae’r indecsau yn rhoi sgôr i ardaloedd yng Nghymru yn seiliedig ar fethodoleg newydd bydd yn cael ei amlinellu yn y lansiad. Y nod yw ceisio creu darlun gwell o iechyd cymunedau Cymru, er mwyn deall yn well eu anghenion arbennig yn enw datrys heriau sefydledig a hir dymor.
Ynghyd a chyflwyno’r data, bydd cynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth yn esbonio canfyddiadau’r ymchwil a’u hargymhellion polisi er mwyn ymateb i’r hyn a ddarganfuwyd. Maent yn honni fod yr indecsau yn rhoi darlun gwell o wytnwch cymunedau ar draws Cymru ac yn rhestrau o asedau cymunedol nad ydynt wedi eu cynnwys mewn astudiaethau tebyg o’r blaen.
I ddysgu mwy am y digwyddiad, ac i gofrestru ar gyfer tocyn i fynychu, dilynwch y ddolen hon i dudalen eventbrite Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau Cymru.