Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i ddulliau newydd o ymladd parasit sy’n effeithio ar y mwyafrif o breiddiau defaid yn y Deyrnas Gyfunol. Drwy ddefnyddio technolegau newydd, gan gynnwys dadansoddi DNA amgylcheddol a synhwyrydd gellid ei osod ar ddefaid i fonitro ymddygiad, gobeithient allu datblygu technegau bydd yn mynd i’r afael a llyngyr yr iau mewn da byw.
Mae llyngyr yr iau yn barasit hynod bathogenaidd sy’n effeithio ar wartheg hefyd ac yn bresennol yn y mwyafrif o breiddiau defaid a buchesau gwartheg yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl amcangyfrifon. Credir fod yr afiechyd yn gyfrifol am gost o £300 miliwn i’r diwydiant da byw bob blwyddyn, oherwydd ei effaith ar dyfiant anifeiliaid, ffrwythlondeb, cynhyrchu llaeth a chynnydd mewn marwoldeb a chostau fet i ymdrin â’r haint.
Mae rheoli llyngyr yr iau’n effeithiol yn hynod bwysig i sicrhau fod cynhyrchu cig defaid yn gynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae hyn yn ddibynnol ar driniaethau sy’n defnyddio cyffuriau, ond mae defnydd gormodol o’r dulliau hyn dros y degawdau diwethaf yn golygu fod y llyngyr wedi datblygu ymwrthedd i’r driniaeth. Mae newid hinsawdd a dyfodiad hafau gwlypach a gaeafau cynhesach hefyd wedi cyfrannu at gynnydd ym mhresenoldeb y llyngyr dros yr hanner canrif ddiwethaf. Mae’r amodau hyn yn ffafriol i’r falwoden mwd sy’n angenrheidiol fel cerbyd i’r llyngyr gael heintio’r defaid a’r gwartheg.
Bydd y gwaith ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth yn para tair blynedd, ac yn defnyddio technegau arloesol i ddatblygu ymyraethau newydd i reoli’r llyngyr. Er enghraifft, drwy ddefnyddio profion protein a DNA amgylcheddol fe fydd yr ymchwilwyr yn gallu adnabod ardaloedd heintus ar ffermydd.
Dywedodd Aled Rhys Jones, arweinydd y prosiect:
‘Mae cynhyrchwyr da byw yn wynebu bygythiad digynsail gan yr haint dros y degawdau nesaf. Bydd newid hinsawdd, ymwrthedd i gyffuriau a newidiadau polisi rheoli tir i gyd yn cyfrannu at fygythiad cynyddol llyngyr yr iau, a fydd, os na chaiff ei liniaru, yn effeithio’n negyddol ar gynhyrchiant anifeiliaid, lles ac allyriadau carbon.
‘Gyda phoblogaethau llyngyr yr iau yn datblygu ymwrthedd yn gyflym i rai triniaethau cyffuriau, mae’n rhaid defnyddio strategaethau rheoli amgen sy’n canolbwyntio ar osgoi heintiau trwy bori a rheoli tir ar ffermydd. Fodd bynnag, er mwyn i’r mesurau hyn fod yn effeithiol, mae’n hollbwysig ein bod yn gallu adnabod yn gywir yr ardaloedd ar ffermydd a chaeau lle mae risg o haint llyngyr yr iau.’
‘Bydd y prosiect hwn yn defnyddio technegau dadansoddi DNA amgylcheddol a gafodd eu datblygu’n flaenorol ym Mhrifysgol Aberystwyth i adnabod cynefinoedd malwod y mwd ar ffermydd prosiect a gwerthuso nodweddion amgylcheddol yr ardaloedd risg hyn i wella ein dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar bresenoldeb ac ecoleg malwod mwd. Bydd y prosiect hefyd yn datblygu techneg dadansoddi protein amgylcheddol newydd a fydd yn gwella ein galluoedd profi amgylcheddol ymhellach ac yn cynnig cipolwg ar amserlenni risg haint.’
‘Fodd bynnag, bydd triniaethau cyffuriau yn parhau i fod yn rhan hanfodol o strategaethau rheoli llyngyr yr iau, ac felly rhaid datblygu offer i gefnogi defnydd cynaliadwy o’r triniaethau hyn. Bydd y prosiect hwn yn gwerthuso effeithiolrwydd defnyddio data perfformiad defaid a synwyryddion ymddygiad gwisgadwy ar gyfran fach o’r ddiadell i arwain triniaethau llyngyr yr iau yn fanwl gywir.’
Bydd y prosiect hefyd yn cydweithio a phartneriaid eraill er mwyn siapio dyfodol y frwydr yn erbyn llyngyr yr iau. Mae’r partneriaid rhain yn cynnwys Undeb Amaethwyr Cymru, Menter a Busnes, Canolfan Wyddoniaeth Milfeddygol Cymru ynghyd a Ridgeway Research.
Dywedodd Hazel Wright, Is-lywydd polisi Undeb Amaethwyr Cymru:
‘Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn falch iawn o fod yn bartner yn y prosiect ymchwil arloesol a newydd hwn. Mae effeithiau haint llyngyr yr iau ar dwf a chynhyrchiant diadellau defaid yng Nghymru yn sylweddol. Mae croeso felly i ffrydiau ymchwil i’r mecanweithiau hynny a allai leihau nifer yr achosion o’r parasit hwn yn sylweddol.’
‘Fel diwydiant rydym yn cydnabod y gall ffactorau fel newid hinsawdd a’i effeithiau ar batrymau tywydd gael effaith aruthrol ar drosglwyddo heintiau parasitig. O ystyried tueddiad llyngyr yr iau i ffynnu yn yr amodau cynhesach a gwlypach y mae ein haelodau yn eu profi ar hyn o bryd., mae’r prosiect hwn yn hanfodol bwysig er mwyn helpu i ddiogelu sector defaid cynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.’
Daw’r nawdd ar gyfer yr ymchwil drwy grant gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, sy’n rhan o UKRI.