Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi lansio Fforwm Datblygu newydd bydd yn gyfle i’w haelodau a’r cyhoedd ddod ynghyd ac arbenigwyr a gweithredwyr ym maes cynhyrchu ynni adnewyddadwy i drafod dyfodol y maes.
Bydd y fforwm yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn er mwyn i randdeiliaid amrywiol y sector ynni cymunedol yng Nghymru allu rhannu eu profiadau, gwybodaeth a’u barn ynghylch datblygiadau diweddaraf y maes.
Dywedodd Leanne Wood, cyd-gyfarwyddwr gweithredol Ynni Cymunedol Cymru
‘Mae Ynni Cymunedol Cymru yn helpu i adeiladu rhwydwaith o asedau ynni adnewyddadwy ym mherchnogaeth ein cymunedau. Mae perchnogaeth gymunedol o ddulliau cynhyrchu ynni gwyrdd yn darparu manteision economaidd, cymdeithasol, lles ac amgylcheddol. Mae ganddo hefyd y potensial i helpu pobl i allu gwrthsefyll unrhyw sioc i bris ynni yn y dyfodol. Dewch yn rhan o’n Fforwm Datblygu i ddarganfod sut y gallwch chi helpu adnewyddu, adfywio a pharatoi eich cymuned ar gyfer y dyfodol, ynghyd a chymryd camau ymarferol i helpu gyda newid hinsawdd.’
Mae’r sesiwn cyntaf yn cael ei gynnal ar 18 Gorffennaf rhwng 10:30 a 12:30.
Mae modd canfod manylion pellach, ynghyd a chofrestru eich bwriad i fynychu’r fforwm drwy ddilyn y ddolen hon.