Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio cyfle i fusnesau lleol gael safleoedd arddangos i’w cwmnïau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 (5ed-12fed o Awst 2023). Bydd modd i fusnesau wneud cais i arddangos a gwerthu eu cynnyrch mewn un o bedwar o gabanau a ddarperir am ddim i’r sawl sy’n llwyddiannus. Gellir gwneud cais am dri neu bedwar diwrnod neu am yr wythnos gyfan yn ddibynnol ar nifer y ceisiadau a dderbynnir.
Mewn datganiad wrth lansio’r fenter dywedodd adran Busnes@ y Cyngor fod dyfodiad yr Eisteddfod i’r ardal yn ‘gyfle delfrydol i fusnesau micro a bach eu maint i arddangos a gwerthu eu cynnyrch ar y maes’. Penderfynodd y Cyngor felly i gynnig y cyfle hwn yn arbennig er mwyn hybu busnesau lleol a’u helpu i ennill y gwelededd cenedlaethol y mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig. Rhoddir blaenoriaeth i fusnesau newydd a llai eu maint sydd wrthi’n datblygu neu rai nad ydynt wedi cael cyfle i arddangos ar faes yr Eisteddfod yn y gorffennol.
Bydd rhaid i ymgeiswyr sydd am ennill lle i’w busnes ar y maes lenwi ffurflen er mwyn gwneud cais. Mae’r ffurflen yn gofyn i gwmnïau amlinellu crynodeb o hanes eu busnes, esbonio’r modd y byddai cael caban ar faes yr Eisteddfod yn cynorthwyo a datblygu eu busnes nhw yn arbennig, ac i sylwebu ar effaith bosib y byddai ennill cyfle o’r fath yn ei gael ar eu heconomi leol. Mae gan y Cyngor ddiddordeb hefyd yn yr effaith y mae’r cwmnïau hyn yn ei gael ar yr iaith ac ar yr amgylchedd yn eu tro ac mae gofyn iddynt esbonio hynny yn y cais.
Mae modd i’r rheini sydd am gyflwyno cais wneud hynny drwy ddilyn y ddolen yma. Y dyddiad cau yw 25 Mehefin 2023 am 5 o’r gloch yr hwyr.