Mae’r Digital Poverty Alliance yn diffinio ‘tlodi digidol’ fel ‘anallu i ryngweithio’n llawn â’r byd ar-lein, pryd, ble, a sut mae angen i unigolyn wneud hynny.’ Yng Nghymru, mae nifer isel o bobl hŷn a chartrefi incwm isel yn manteisio ar fand eang yn broblem sylweddol, gyda 7% o oedolion ddim ar-lein, yn ôl CWMPAS. Mae Llywodraeth Cymru yn gweld Cyflymu Cymru fel llwyddiant, gyda 90%+ â mynediad ar-lein. Fodd bynnag, mae cefn gwlad Cymru yn arbennig, yn dal i fod yn brin o’r cyflymder band eang gofynnol a hygyrchedd ar gyfer cartrefi a busnesau.
Mae tlodi digidol wedi dod yn broblem gynyddol, yn enwedig wrth i fwy o wasanaethau cyhoeddus gael eu darparu ar-lein oherwydd y pandemig. Mae lefel yr allgáu digidol yng Nghymru yn uwch nag yng ngweddill y DU ac yn ôl Cymunedau Digidol Cymru, pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o ddefnyddwyr trymaf gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae mynediad a chyflymder yn parhau i fod yn ffactorau hanfodol mewn tlodi digidol. Gall cysylltedd gwael mewn cyd-destunau gwledig ysgogi tlodi digidol, sy’n effeithio ar ganlyniadau diriaethol pobl yn yr ardaloedd hynny, gan danseilio iechyd cymdeithasol ac economaidd ardaloedd gwledig.
Hyd yn oed pan fo lefel o gysylltedd mewn ardaloedd gwledig, mae gwahaniaethau sylweddol yn ansawdd y cysylltedd o fewn cymunedau. Gall diffyg mynediad at wasanaethau digidol gael effaith ariannol uniongyrchol. Er enghraifft, os nad yw pobl yn gallu cymharu prisiau ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel ynni, yswiriant car, neu wasanaethau ariannol ac yn cael eu gorfodi i aros gyda’r un darparwr, efallai na fydd hyn yn cynnig y fargen orau ac yn costio mwy.