Gan fod amaethyddiaeth yn cael ei gysyllytu fel un o’r elfennau sy’n cyfrannu fwyaf at newid yn yr hinsawdd, mae angen dull gweithredu ledled Cymru i ddiwygio’r diwydiant a’n perthynas â’n cadwyn cyflenwi bwyd. Mae effeithiau amgylcheddol mae amaethyddiaeth fodern ar fywyd gwyllt a’r cysylltiad rhwng porthiant da byw a datgoedwigo coedwig law America yn bryderus. Fodd bynnag, un ateb posibl yw defnyddio’r system amaethyddol adfywiol fel rhan o’n hegwyddorion ffermio i greu Cymru’n cenedl sy’n arwain y byd mewn amaethyddiaeth gynaliadwy.
Mae amaethyddiaeth agroecolegol neu adfywiol yn sicrhau mai ffermwyr sy’n gyfrifol am reoli sut y maent am ffermio eu tir yn gynaliadwy. Cred y ddamcaniaeth wrth wraidd ffermio adfywiol fod gan amaethyddiaeth rôl yn y gwaith o adsefydlu a gwella’r ecosystem gyfan drwy weithio’n agos gyda’r broses o reoli pridd a dŵr.[1] Gellir dilyn y dulliau hyn gyda egwyddorion megis:
Lleihau aflonyddu ar bridd – Mae gwrtaith ac aredig tir yn barhaus wedi gwanhau ffrwythlondeb y tir. Drwy aflonyddu ar bridd cyn lleied â phosibl, mae gan yr ecosystem gyfle i ffynnu a chreu cnydau iachach.
Cadw pridd wedi’i orchuddio – Bydd cadw’r pridd wedi’i orchuddio am y rhan fwyaf o’r flwyddyn yn sicrhau amddiffyniad rhag erydiad gwynt a dŵr ac yn atal hadau chwyn rhag egino.
Amrywiaeth o blanhigion neu gnydau – Mae cynyddu’r amrywiaeth o gnydau ac anifeiliaid yn y system yn lleihau pwysau plâu a chlefydau gan gefnogi bioamrywiaeth a gwella iechyd pridd ar yr un pryd. Yng Nghymru mae gwaith eisoes yn cael ei wneud megis gyda sefydliad Gaia a’r ffermwr Gerald Miles sy’n ymdrechu i ddefnyddio hadau a grawn mwy brodorol sy’n gynaliadwy i’n tir er mwyn hybu amrywiaeth grawn mewn cyfnod o argyfwng.
Integreiddio da byw – Mae defnyddio da byw ar dir âr yn darparu tail organig ac yn annog planhigion newydd i dyfu sydd yn y pen draw yn pwmpio mwy o garbon i’r pridd. Mae angen i ffermwyr droi cefn ar dda byw sy’n cael eu bwydo â grawn a’u magu’n ddwys ac sy’n defnyddio traean o’r holl rawnfwyd sy’n cael ei gynhyrchu os ydym am gynnwys cig fel rhan o gadwyn fwyd gynaliadwy yng Nghymru.[2] Mae 80% o dir fferm Cymru yn dir âr felly mae defnyddio gwartheg a chig oen sy’n bwyta glaswellt yn hanfodol er mwyn i’r diwydiant yng Nghymru greu cynnyrch cynaliadwy.[3] Fodd bynnag, mae creu ardaloedd bach o dir garddwriaethol yn hanfodol ac yma yng Nghymru mae’n rhaid i ni gynyddu nifer y ffermydd sy’n tyfu ffrwythau a llysiau i’r boblogaeth leol. Mae Our Food yn Sir Fynwy yn arwain y ffordd yng Nghymru drwy hyrwyddo a chefnogi ffermwyr sy’n defnyddio’r dulliau hyn gan gynyddu bioamrywiaeth, gwella priddoedd a chyflenwadau dŵr, dal carbon a chadw plâu a chlefydau mor isel â phosibl.
Mae’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad yn credu bod yn rhaid i ni fabwysiadu’r dulliau hyn a phrif egwyddorion agroecolegol eraill megis lleihau maint daliadau a fyddai o fudd i ffermwyr Cymru gan eu bod yn tueddu i fod yn llai na rhai gweddill y DU.[4] Daw Llywodraeth Cymru i’r casgliad hefyd fod angen anelu eu polisïau a’u mentrau amaethyddol at adfer bioamrywiaeth yn ei hadroddiad diweddaraf Cynllun Ffermio Cynaliadwy: adfer bioamrywiaeth. Ond mae’r Gynghrair Polisi Bwyd yn mynnu bod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd mewn amaethyddiaeth a chymhwyso dulliau agroecolegol i’r diwydiant.
Gall dulliau adfywio greu effaith hirdymor ar gymunedau gwledig drwy greu cadwyn cyflenwi bwyd lai a thaith bwyd fyrrach. Mae’r dull hefyd yn rhoi mwy o reolaeth i’r cynhyrchydd sydd yn y pen draw yn creu busnes mwy proffidiol. Er mwyn i amaethyddiaeth Cymru fynd i’r afael â’r bygythiad o newid yn yr hinsawdd, efallai mai hyrwyddo amaethyddiaeth adfywiol yw’r ffordd ymlaen i’r diwydiant ffynnu yn y Gymru wledig.
[1] https://www.climaterealityproject.org/blog/what-regenerative-agriculture
[2] https://www.independent.co.uk/life-style/food-and-drink/british-farmers-producing-top-quality-food-taking-intensive-farming-veganism-a8851606.html
[3] https://eatwelshlambandwelshbeef.com/cy/beth-yw-pgi/amgylchedd/
[4] https://ffcc.co.uk/assets/downloads/FFCC_Farming-for-Change_January21-FINAL.pdf
[4] https://senedd.wales/research%20documents/16-053-farming-sector-in-wales/16-053-web-welsh2.pdf t3