Mae Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru wedi lansio ei gweledigaeth ar gyfer Cymru wledig er mwyn mynd i’r afael a’r heriau a chyfleoedd sy’n wynebu’r ardaloedd hynny. Mae’r maniffesto yn amlinellu saith galwad allweddol gan Fforwm Wledig CLlLC sydd yn cynnwys y naw o awdurdodau gwledig Cymru, i gefnogi cymunedau bywiog a deinamig ar draws Cymru wledig. Mae’r saith galwad yn gofyn am:
- Gefnogi arallgyfeirio’r sylfaen economaidd wledig a mabwysiadu dull economi gylchol o ymdrin â chynhyrchion gwledig naturiol.
- Greu rhaglen ieuenctid wledig wedi’i thargedu i fuddsoddi, uwchsgilio a chadw pobl ifanc ddisglair a thalentog mewn cymunedau gwledig.
- Ychwanegu gwerth at seilwaith gwledig.
- Sicrhau sector dwristiaeth gynaliadwy sy’n cefnogi cymunedau, busnesau a phobl leol.
- Teilwra polisïau tai i adlewyrchu anghenion y gymuned leol.
- Buddsoddi mewn trefi gwledig clyfar a ffyniannus.
- Adeiladu cyfoeth cymunedol a mynd i’r afael a’r Canol Coll o fewn economi Cymru.
Mae’r weledigaeth a gaiff ei hamlinellu yma’n cynnwys cynigion polisi ar gyfer yr economi wledig sy’n ceisio gwella ac ategu polisi amaeth yn y dyfodol drwy fynd i’r afael â’r ystod gymhleth o heriau a nodwyd gan aelodau’r Fforwm. Ceir hefyd llawer o bwyslais ar yr economi gylchol a sylfaenol fel ffordd o adfywio’r economi wledig.
Mae’r maniffesto wedi ei lunio mewn pryd ar gyfer etholiadau’r senedd eleni wrth amlygu pwysigrwydd cymunedau gwledig i Gymru a bydd yn ddiddorol gweld sut all y weledigaeth gael ei gweithredu fel rhan o gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru.