Mae Cynllun Garddwriaeth Fasnachol 2020 ar gyfer y Diwydiant Garddwriaeth Fasnachol yng Nghymru yn darparu arweiniad i’r diwydiant ac yn argymell camau i adeiladu yn unol ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru.
Dan arweiniad Tyfu Cymru a rheolaeth Lantra mae’r cynllun gweithredu yn amlinellu sut all y diwydiant ddatblygu’n gynaliadwy a chynnal cynhyrchiad masnachol i Gymru yn y tymor hir. Mae’r cynllun yn ceisio ymateb i anghenion uniongyrchol ac yn darparu arweinyddiaeth i arfogi busnesau â’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol ar gyfer twf gwyrdd a chynhwysol gyda chefnogaeth ymchwil gymhwysol a defnydd priodol o dechnoleg.
Mae’r gwaith hwn yn bwysig i dargedau Deddf Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Deddf yr Amgylchedd 2016 y Llywodraeth o greu cadwyn cyflenwi bwyd mwy gwyrdd ac edrych ar ffyrdd cynaliadwy o adfywio economi cefn Gwlad Cymru. Wrth reoliadau amaeth a bwyd newid yn dilyn Brexit mae angen cynllun garddwriaeth fasnachol gadarn gan greu cyfle i Gymru edrych ar ddatblygu cadwyn cyflenwi fwy hunangynhaliol.