Mae Canllaw Maes Cymru i Genedlaethau’r Dyfodol yn galw ar y wlad i gipio’r foment dyngedfennol hon i ddarparu ar gyfer a gweithredu ei agenda polisi blaengar.
Mae’r adroddiad yn tynnu oddi wrth drafodaethau gan Food, Farming & Countryside Comission gyda phobl ar draws y genedl ac yn dynodi’r gwaith anhygoel sydd eisioes ar droed. Mae’r straeon ysbrydoledig hyn yn dangos ymchwydd o egni ac archwaeth am ddatblygu ffyrdd newydd o ddod o hyd i fwyd ac yn ei dyfu, ynghŷd â gwerthfawrogiad newydd o rôl cefn gwlad. Maent yn pwysleisio’r angen dybryd i gyflymu ar frys weithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru er mwyn cefnogi’r bobl sydd eisioes yn gweithio tuag at adferiad gwyrdd.
Mae’r ddogfen yn cynnig cwestiynau newydd yn hytrach nag argymhellion arferol ac yn mynd i’r afael a’r cyfleoedd nid yr heriau sy’n wynebu ein hardaloedd gwledig megis; gallai ymateb i Brexit agor y drws i greu system fwyd integredig newydd, gan ddefnyddio arfau sydd eisoes yn bodoli megis caffael cyhoeddus i yrru’n uniongyrchol gynnydd mewn darpariaeth leol.
Amcan gwaith y Comisiwn dros y tair blynedd nesaf yw darparu tystiolaeth ac argymhellion sy’n seiliedig ar ymchwil gadarn i sicrhau dull trwyadl cynaliadwy tuag at bolisi bwyd a’i weithredu yng Nghymru.