Cafodd adroddiad Iaith y Pridd ei lunio gan Gyswllt Ffermio yn dilyn prosiect a roddodd gyfle i aelodau’r gymuned amaethyddol leisio barn ar y cwestiwn canlynol – “Sut all amaethyddiaeth gyfrannu at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?”. Trwy gyfrwng grwpiau ffocws, cyfweliadau mewn sioeau amaeth, “bŵth amaeth” a holiadur ar-lein, cafwyd cyfle i gyfrannu syniadau fyddai’n credu amodau mwy ffafriol i’r Gymraeg o fewn y sector.
Mae canran uwch o weithwyr yn y sector amaethyddol yn medru’r Gymraeg nag unrhyw sector arall yng Nghymru a’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y diwydiant (43%) yn sylweddol uwch na chyfartaledd y boblogaeth gyffredinol (19%), mae’r cysylltiad rhwng dyfodol amaeth a dyfodol yr iaith yn gryf. O ystyried cryfder y berthynas, teimlad y prosiect oedd y dylid ystyried a oes modd i’r diwydiant gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r adroddiad yn awgrymu dylai’r Llywodraeth weithredu newidiadau er mwyn hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae’r awgrymiadau’n cynnwys ‘Sicrhau bod polisïau a’r system gymorthdaliadau yn cefnogi gweithgarwch ar y fferm deulu’ a ‘Sicrhau bod y gyfundrefn gynllunio yn cefnogi mentrau a chymunedau gwledig’. Mae’r adroddiad wedi ei gefnogi gan Gomisiynydd y Gymraeg hefyd.