Gan Liz Bickerton, Cadeirydd Rhwydwaith Gwledig Cymru
Ym mis Tachwedd 2018 cyfarfu grŵp o unigolion a chynrychiolwyr o asiantaethau menter annibynnol yn Aberystwyth i rannu ein profiad o ddatblygu lleol dan arweiniad y gymuned yng Nghymru. Ein nod oedd tynnu sylw at botensial ein hardaloedd gwledig a cheisio cymorth i fanteisio ar gyfleoedd ar ôl Brexit. Gwnaethom lunio dogfen o’r enw “Manteisio ar y potensial” sy’n galw am gydnabod y potensial hwn a mesurau i’w feithrin.
Mae ein hardaloedd gwledig yn lleoedd llawn cyfleoedd, ac eto mae diffiniad y potensial hwnnw yn aml yn gul, wedi’i gyfyngu i sectorau cyfyngedig neu fel lle i ddiwallu anghenion hamdden y boblogaeth drefol. Mae’r Gymru wledig yn gymaint mwy na hyn. Mae’n gadarnle i’r iaith Gymraeg ac mae ei chymunedau yn cefnogi mentrau amrywiol. Mae 36% o bobl Cymru yn byw mewn aneddiadau o dan 10,000 ac mae ardaloedd gwledig yn cynhyrchu 27% o GYC Cymru.
Denodd seminar yng Ngharno ym mis Gorffennaf 2019 44 o gynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau. Gyda’n gilydd roeddem yn cydnabod bod cymunedau gwledig yn wynebu heriau penodol o ran daearyddiaeth, seilwaith ac oedran y boblogaeth. Nid yw llawer o bolisïau a rhaglenni’n addas oherwydd eu bod yn seiliedig ar glystyrau o angen ac yn methu cydnabod yr heriau sy’n wynebu poblogaethau gwasgaredig. Y canlyniad yw bod potensial yn cael ei golli. Mae gan y sefydliadau a ddaeth ynghyd ddegawdau o brofiad o feithrin arloesedd, gan weithio gyda chymunedau i feithrin mentrau newydd a chefnogi’r economi leol. Fe wnaethom gytuno i barhau i weithio gyda’n gilydd i godi ymwybyddiaeth o ddatblygu economaidd lleol mewn ardaloedd gwledig ac i fanteisio ar y sylfaen wybodaeth gadarn sy’n bodoli yng Nghymru.
Rydym yn canolbwyntio’n benodol ar waith asiantaethau cymorth annibynnol sydd wedi bod ar flaen y gad mewn rhaglenni fel LEADER ers y 1990au, gan gredu bod annibyniaeth yn rhoi’r hyblygrwydd i ymateb yn gyflym i arloesedd a chyfleoedd lleol pan fyddant yn codi. Fodd bynnag, rydym yn anelu at weithio ar draws sectorau i ehangu ffyniant cefn gwlad Cymru.
I ddysgu mwy darllenwch y siarter: Siarter i Gymru Wledig