Ystyried Siarter i Gymru Wledig
Mae rhwydwaith o sefydliadau annibynnol ac unigolion sydd â gwybodaeth a phrofiad helaeth o weithio a byw yng Nghymru Wledig wedi dod ynghyd i dynnu sylw at botensial ein hardaloedd gwledig ac i chwilio am gefnogaeth i fanteisio ar gyfleoedd.
Fel rhwydwaith, rydym yn edrych am weledigaeth gref ac eglurder o fwriad er mwyn hybu datblygiad ein ardaloedd gwledig i’r dyfodol.
Mae 35% o bobl yng Nghymru yn byw mewn aneddiadau o lai na 10,000 ac mae ardaloedd gwledig yn cynhyrchu 27% o werth ychwanegol crynswth (GVA) Cymru. Mae’n hanfodol ein bod yn deall y cyfleoedd pendant sydd ar gael i’n hardaloedd gwledig er mwyn adeiladu Cymru lewyrchus, gynhwysol a chynaliadwy fel sydd wedi ei rhagweld yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rydym ni’n credu:
- Bod gan ardaloedd gwledig botensial arbennig a chynyddol ar gyfer datblygiad ac arloesedd economaidd sy’n wahanol i ganolfannau mawr dinesig a sy’n gallu chwarae rôl bwysig mewn lles cenedlaethol.
- Mai dull ar sail ardal sy’n gweithio gyda’r gymdeithas sifil leol, y busnesau tir a busnesau gwledig eraill a’r sectorau addysg a chyhoeddus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o grynhoi pob ased a darparu lles i bawb.
- Mewn datblygu lleol sy’n canolbwyntio ar gryfderau a chefnogi’r economi sylfaenol. Mae’n cefnogi cwmnïau sy’n bwysig yn rhanbarthol gan feithrin a chefnogi busnesau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn eu heconomi leol a’r cadwyni cyflenwi y maent yn dibynnu arnynt.
- Y dylem gryfhau ein hanes balch a chryf o gefnogi datblygiadau lleol sy’n cael eu harwain gan y gymuned drwy gynlluniau fel LEADER, gan ategu dulliau llwyddiannus ar sail ardal.
- Bod sefydliadau sy’n annibynnol o’r llywodraeth mewn lle da i ddatgelu potensial drwy ddefnyddio dull hyblyg, ymatebol ar lefel leol gan weithio mewn partneriaeth gyda buddiannau’r sectorau preifat a chyhoeddus.
Rydym ni eisiau:
- Ffocws o’r newydd ar y potensial arbennig i arloesi a datblygu Cymru Wledig. Mae hyn yn cynnwys cefnogi platfform annibynnol i leisiau gwledig o bob sector.
- Cyllid pwrpasol ar gyfer datblygu gwledig, sy’n cynnwys buddsoddi mewn arloesedd a datblygu sgiliau yn ogystal â chefnogaeth i oresgyn y rhwystrau adeileddol sy’n atal potensial ardaloedd gwledig.
- Cefnogaeth i ddull ar sail ardal sy’n ystyried ac yn defnyddio pob ased gan ddefnyddio dull cydgynhyrchu.
- Cydnabod rôl bwysig sefydliadau annibynnol, sydd wedi ei seilio ar hanes llwyddiannus o gefnogi a darparu dull ar sail ardal.
Rydym ni’n croesawu’r cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru, gydag eraill sy’n gwneud penderfyniadau a gyda rhanddeiliaid ynglŷn â sut y gellir gwireddu’r amcanion hyn.